Mae’n ofid mawr ein bod, oherwydd tywydd garw, yn cyhoeddi y bydd Marchnad Fictoraidd eleni (7.12.23) yn cael ei lleihau am resymau iechyd a diogelwch.
Mae digwyddiadau awyr agored o’r math hwn bob amser yn hyglwyf i natur anrhagweladwy’r tywydd. Mae’r Farchnad Fictoraidd yn ddigwyddiad undydd sy’n golygu nad yw’n ymarferol llogi’r cabanau pren mwy cadarn a all wrthsefyll gwyntoedd cryfion gan fod y rhain yn cael eu cadw gan farchnadoedd Nadolig sy’n rhedeg am gyfnod llawer hirach.
Bydd rhai stondinau Nadolig ar gael i ymwelwyr eu mwynhau yn Eglwys San Silyn ac yn Nhŷ Pawb, tra bydd y ffair yn Sgwâr y Frenhines yn dal i fynd yn ei blaen. Mae’r reidiau Fictoraidd traddodiadol bob amser yn boblogaidd iawn ac eithrio’r olwyn fferi, maent yn ddiogel i’w gweithredu mewn gwyntoedd cryf. Bydd rhai mannau bwyta hefyd yn cynnig bwyd a diod cynnes Nadoligaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl yn siomedig iawn fel yr ydym ni ein hunain. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ddiogelwch stondinwyr ac ymwelwyr fod yn flaenoriaeth. Mae’r Tîm wedi gweithio’n galed iawn ar fyr rybudd i sicrhau, er ei fod wedi’i lleihau, y bydd y digwyddiad Nadolig hwn yn dal yn werth ei fynychu.”