Ar ôl mwy na thri degawd ers ei adnewyddiad diwethaf, mae’r gwaith angenrheidiol ar Farchnad y Cigyddion, yn ogystal â’r Farchnad Gyffredinol bron wedi’u chwblhau.
Gyda rhywfaint o waith ychwanegol annisgwyl wedi achosi oedi, peth eithaf cyffredin wrth ailwampio adeiladau hŷn, bydd y farchnad nawr yn agor yn swyddogol ar 28 Tachwedd.
Mae’r oedi hwn wedi dod yn bositif, gan y bydd y marchnadoedd sydd wedi’u hadnewyddu nawr yn lansio ochr yn ochr â digwyddiad tymhorol mwyaf Wrecsam, y Farchnad Nadolig Fictoraidd, sydd bellach wedi’i ymestyn i farchnad pedwar diwrnod, a fu’n cynnwys am y tro cyntaf stondinau pren traddodiadol.
I gyd-fynd gyda hyn, bydd gan y lansiad tros bedwar diwrnod y marchnadoedd wedi’u hadnewyddu thema Fictoraidd hefyd, gan adlewyrchu’r lansiad adnewyddu Marchnad y Cigyddion yn 1992.
Dywedodd Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol Busnes, Economi a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld y Marchnadoedd Cigyddion a Chyffredinol yn cael yr adnewyddiad oeddent angen. “Fel y rhan fwyaf o waith ar adeiladau hŷn, mae ein contractwyr yn wynebu heriau newydd gyda phob diwrnod sy’n pasio.
“Mae ein Marchnadoedd yn rhan mor bwysig o Wrecsam, ac mae’n amser cyffrous wrth rannu’r cyfleusterau newydd a gwelliannau gyda’r gymuned wrth i dymor yr ŵyl ddechrau.
“Bydd cael y lansiad yn rhedeg ochr yn ochr â’r Farchnad Nadolig Fictoraidd yn fonws mawr. “Bydd yn gyfle gwych i fasnachwyr y marchnadoedd, busnesau lleol ac economi Wrecsam elwa o’r nifer o ymwelwyr ychwanegol yng nghanol y ddinas.
Disgwylir i’r digwyddiadau ar y cyd ddenu mwy o draffig troed i’r ddinas, gan gynnig awyrgylch bywiog i bobl leol ac ymwelwyr, yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd i fasnachwyr y farchnad a busnesau lleol yn ystod tymor yr ŵyl.
I gael rhagor o wybodaeth am lansiad pedwar diwrnod y Marchnadoedd wedi’u hadnewyddu, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn tudalen Facebook newydd Marchnadoedd Wrecsam – rhagor o ddiweddariadau a chyhoeddiadau i ddod:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Farchnad Nadolig Fictoraidd, dilynwch eu tudalen Facebook: