Town Centre

O ddydd Llun 12 Ebrill, bydd bob siop yn Wrecsam gan gynnwys rhai nad ydynt yn hanfodol yn gallu ailagor.

Ar hyn o bryd mae masnachwyr ym Marchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb (bwyd i fynd yn unig) yn paratoi i roi croeso cynnes i chi yn ôl i ganol y dref.

Rydym hefyd wedi gwella Sgwâr y Frenhines a Stryt Henblas wrth blannu planhigion ac adnewyddu’r fainc ganolog yn Sgwâr y Frenhines i sicrhau fod bob man yn edrych yn dda pan fyddwch yn dychwelyd.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae hwn yn amser pwysig i gefnogi ein busnesau lleol. Ond cofiwch – nid yw’r feirws wedi diflannu ac mae cyn bwysiced ag erioed i aros yn ddiogel wrth i fesurau cyfnod clo barhau i gael eu llacio.

Mae dal yn hanfodol ein bod yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, defnyddio’r hylif diheintio dwylo sydd ar gael yn y siopau a’r marchnadoedd ac yn gwisgo mwgwd wyneb oni bai eich bod wedi eich eithrio.

Bydd ein pencampwyr pellter cymdeithasol o gwmpas unwaith eto i’ch cynorthwyo ac i ateb unrhyw ymholiadau.

  • Mae Marchnad y Cigyddion ar agor rhwng 9am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn (9am – 1.30pm ar ddydd Mercher).
  • Ar hyn o bryd, mae’r Farchnad Gyffredinol ar agor rhwng 9am a 4pm dydd Llun i ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Mercher).
  • Mae marchnad awyr agored wythnosol Wrecsam yn cael ei chynnal bob dydd Llun trwy gydol y flwyddyn ar Sgwâr y Frenhines, rhwng 9am a 4pm.
  • Mae marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb ar agor rhwng 10am a 4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd rhai masnachwyr y neuadd fwyd ar agor tan 6pm ar gyfer bwyd i fynd.

Mae oddeutu 1 o bob 3 o bobl â Covid heb symptomau a gallent ei basio i eraill heb wybod.

Cadwch bellter o 2m a gwisgwch fasg man fo rhaid.

Canol y Dref

😷 Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU