Mae’r meinciau cyfarwydd a’r biniau sbwriel yn Sgwâr y Frenhines am gael eu hailwampio diolch i gyllid gan Gronfa Adfer Canol Tref Llywodraeth Cymru.
Mae’r meinciau wedi bod mewn lle ers yr 1900au hwyr, ac wedi cael eu defnyddio’n dda drwy’r adeg sy’n golygu bod amser i roi sylw manwl iddynt.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd y meinciau yn cael eu tynnu ar ddechrau wythnos 14 Chwefror a dylai gymryd tua thair i bedair wythnos i gyflawni’r gwaith, a byddant yn cael eu hailosod ac yn barod ar gyfer y ddau ddegawd arall!
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd “Mae’r meinciau wedi bod mewn lle ers dros ddau ddegawd a bellach yn edrych yn hen ac angen ychydig o sylw. Rydym yn bwriadu ailwampio neu amnewid y meinciau, a chael biniau newydd a fydd yn rhan bwysig i ddenu ymwelwyr i ganol y tref.”
Bydd unrhyw feinciau newydd yn union yr un fath â’r rhai gwreiddiol, gan gadw cymeriad canol tref yn gyson.
Cyhoeddwyd Cronfa Adfer Canol Tref Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020 yn ystod y cyfnod roedd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu lleddfu Ar y pryd dim ond gweini bwyd y tu allan oedd busnesau yn gallu ei wneud, a roedd y gronfa wedi’i anelu atynt i brynu byrddau a chadeiriau i’w galluogi i addasu i wneud hyn.
Er bod y fenter ariannu hon yn llwyddiant i gefnogi busnesau, gyda nifer dda yn ei dderbyn, adnabuwyd bod arian dros ben sydd wedi’i ail-ddosbarthu i fuddsoddi mewn gwelliannau cyhoeddus canol tref gan gynnwys celfi stryd a chyfarpar.
Delwedd: Trwy garedigrwydd Wrexham.com
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL