Mewn ymgais lwyddiannus i adfywio Marchnad Dydd Llun eiconig Wrecsam, mae grŵp o gynghorwyr lleol wedi dod at ei gilydd i roi bywyd newydd i’r farchnad awyr agored wythnosol hon. O ddechrau mis Mehefin, dechreuodd y farchnad gynnig cymhelliant cyffrous i fasnachwyr newydd a rheolaidd: masnachu di-rent trwy fis Mehefin, Gorffennaf ac Awst.
Nod y fenter hon yw denu amrywiaeth eang o werthwyr, gan wella bywiogrwydd ac amrywiaeth y farchnad. Mae ymdrech ar y cyd y cynghorwyr yn tanlinellu eu hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol a meithrin awyrgylch cymunedol bywiog.
Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae lansio’r fenter hon wedi bod yn llwyddiannus, nid yn unig wrth gefnogi busnesau lleol a masnachwyr marchnad, ond wrth ein helpu i dyfu ein cymuned farchnadoedd, a denu pobl i ganol y ddinas. Bydd cefnogi ein masnachwyr marchnad yn cefnogi cynaliadwyedd eu busnesau lleol, ac yn helpu ein cymuned i ffynnu.”
Mae diolch arbennig i’r holl gynghorwyr, y mae eu hymroddiad wedi bod yn allweddol wrth yrru’r fenter hon yn ei blaen. Yn ogystal, chwaraeodd Debbie Lovell, cynrychiolydd masnachwyr y farchnad, ran hanfodol wrth gydlynu ymdrechion a sicrhau llwyddiant yr ail-lansiad.
Wedi lleihau yn y gorfennol i lai na deg o fasnachwyr, mae’r farchnad wedi profi adfywiad rhyfeddol. Mae bellach yn llenwi Sgwâr y Frenhines ac yn ymestyn ymlaen i Stryt yr Arglwydd, gan greu awyrgylch bywiog a phrysur yng nghanol Wrecsam.
Mae Marchnad Dydd Llun a ail-lansiwyd yn cynnig amrywiaeth o nwyddau, o gynnyrch ffres a chrefftau wedi’u gwneud â llaw i nwyddau wedi’u pobi a choffi crefft. Gwahoddir trigolion lleol ac ymwelwyr i archwilio’r farchnad, a mwynhau profiad siopa pleserus yn yr haul.
Mae’r cyfnod masnachu di-rent yn para hyd at ddiwedd mis Awst, gan roi digon o gyfle i fasnachwyr sefydlu eu hunain ac i siopwyr ddarganfod ffefrynnau newydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu, cysylltwch â wrexhammarkets@wrexham.gov.uk.