Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Menter Marchnad Dydd Llun yn llwyddiant mawr i fasnachwyr lleol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Menter Marchnad Dydd Llun yn llwyddiant mawr i fasnachwyr lleol
Y cyngorPobl a lle

Menter Marchnad Dydd Llun yn llwyddiant mawr i fasnachwyr lleol

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 27, 2024 4:59 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Menter Marchnad Dydd Llun yn llwyddiant mawr i fasnachwyr lleol
RHANNU

Mewn ymgais lwyddiannus i adfywio Marchnad Dydd Llun eiconig Wrecsam, mae grŵp o gynghorwyr lleol wedi dod at ei gilydd i roi bywyd newydd i’r farchnad awyr agored wythnosol hon. O ddechrau mis Mehefin, dechreuodd y farchnad gynnig cymhelliant cyffrous i fasnachwyr newydd a rheolaidd: masnachu di-rent trwy fis Mehefin, Gorffennaf ac Awst.

Nod y fenter hon yw denu amrywiaeth eang o werthwyr, gan wella bywiogrwydd ac amrywiaeth y farchnad.  Mae ymdrech ar y cyd y cynghorwyr yn tanlinellu eu hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol a meithrin awyrgylch cymunedol bywiog.

Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae lansio’r fenter hon wedi bod yn llwyddiannus, nid yn unig wrth gefnogi busnesau lleol a masnachwyr marchnad, ond wrth ein helpu i dyfu ein cymuned farchnadoedd, a denu pobl i ganol y ddinas. Bydd cefnogi ein masnachwyr marchnad yn cefnogi cynaliadwyedd eu busnesau lleol, ac yn helpu ein cymuned i ffynnu.”

Mae diolch arbennig i’r holl gynghorwyr, y mae eu hymroddiad wedi bod yn allweddol wrth yrru’r fenter hon yn ei blaen. Yn ogystal, chwaraeodd Debbie Lovell, cynrychiolydd masnachwyr y farchnad, ran hanfodol wrth gydlynu ymdrechion a sicrhau llwyddiant yr ail-lansiad.

Wedi lleihau yn y gorfennol i lai na deg o fasnachwyr, mae’r farchnad wedi profi adfywiad rhyfeddol.  Mae bellach yn llenwi Sgwâr y Frenhines ac yn ymestyn ymlaen i Stryt yr Arglwydd, gan greu awyrgylch bywiog a phrysur yng nghanol Wrecsam.

Mae Marchnad Dydd Llun a ail-lansiwyd yn cynnig amrywiaeth o nwyddau, o gynnyrch ffres a chrefftau wedi’u gwneud â llaw i nwyddau wedi’u pobi a choffi crefft.  Gwahoddir trigolion lleol ac ymwelwyr i archwilio’r farchnad, a mwynhau profiad siopa pleserus yn yr haul.

Mae’r cyfnod masnachu di-rent yn para hyd at ddiwedd mis Awst, gan roi digon o gyfle i fasnachwyr sefydlu eu hunain ac i siopwyr ddarganfod ffefrynnau newydd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu, cysylltwch â wrexhammarkets@wrexham.gov.uk.

Erthygl flaenorol Bwletin arbed ynni 3: Dim ond rhoi hynny o ddŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell. Bwletin arbed ynni 3: Dim ond rhoi hynny o ddŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell.
Erthygl nesaf ID Cofiwch eich ID ddydd Iau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English