Bydd dydd Gwener, 9 Rhagfyr (2022), yn cael ei gofio fel diwrnod gwirioneddol hanesyddol i Wrecsam. Bydd y diwrnod hwn yn aros yn y cof am hir iawn!
Dyma’r diwrnod yr ymwelodd Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog â dinas fwyaf newydd Cymru, gan greu cyffro mawr ledled y fwrdeistref sirol.
Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â’r Cae Ras i ymweld â Chlwb Pêl-droed Wrecsam, lle cyfarfu Eu Mawrhydi â’r perchnogion, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn ogystal â chwaraewyr a staff.
Dilynwyd hyn gan wasanaeth yn Eglwys San Silyn i nodi bod Wrecsam wedi ei gwneud yn ddinas, a gorffennwyd y diwrnod gyda phlannu coeden ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines ar ystad syfrdanol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig.
Edrychwch ar y lluniau anhygoel hyn…
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron: “Am ddiwrnod ardderchog i ddinas fwyaf newydd Cymru!
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous, ac yr oedd yn fraint aruthrol cael croesawu Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog i’r fwrdeistref sirol.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae bwrlwm cadarnhaol enfawr o gwmpas dinas Wrecsam ar hyn o bryd.
“Mae gennym Safle Treftadaeth y Byd, clwb pêl-droed anhygoel, ac mae pobl o bedwar ban byd yn dechrau clywed amdanom ni, ac yn ymweld â Wrecsam.
“Rwy’n eithriadol o falch o stori Wrecsam, ac mae cael ymweliad gan Eu Mawrhydi yn ardderchog ac yn destun balchder mawr i mi.”
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam: “Roedd hwn yn ddiwrnod gwirioneddol hanesyddol i’r fwrdeistref sirol.
“Mae Wrecsam yn codi’r bar ac yn dangos ei photensial anhygoel i’r byd; ac mae gallu croesawu Eu Mawrhydi i ddathlu ein statws dinas yn ffordd briodol o ddiweddu blwyddyn arbennig i Wrecsam.”