Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eisiau llwyth o arian AM DDIM? Cliciwch yma!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Eisiau llwyth o arian AM DDIM? Cliciwch yma!
Pobl a lle

Eisiau llwyth o arian AM DDIM? Cliciwch yma!

Diweddarwyd diwethaf: 2018/06/25 at 2:38 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Eisiau llwyth o arian AM DDIM? Cliciwch yma!
RHANNU

… ac rydych chi wedi gwneud eich camgymeriad cyntaf.

Cynnwys
Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau                                        Sgamiau Buddsoddi“Mae hwn a’r llall yn dweud fod hwn yn fargen anhygoel…”Cynghorion syml – pethau i’w cofio

Peidiwch â phoeni – dydan ni ddim yma i’ch twyllo chi.

A fedrwn ni ddim eich beio am glicio ar y ddolen – mae’n dod gan y Cyngor, ac rydym yn ffynhonnell newyddion y gallwch ymddiried ynddi.

Ond mae tactegau fel teitlau deniadol ac esgus bod yn bobl y gallwch ymddiried ynddynt yn ddau o’r gwahanol dactegau y bydd sgamwyr yn eu defnyddio i gymryd eich arian.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Mae rhai ohonynt yn eithaf amlwg ac yn hawdd sylwi arnynt; mae eraill yn fwy cyfrwys a soffistigedig.

Ond mae pob un ohonynt yn cael eu gwneud gyda’r nod o fynd ag arian oddi arnoch – yr unig bobl fydd â llwyth o arian yn y pen draw fydd y sgamwyr eu hunain.

Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau                                       

Rydym eisiau eich helpu i fod yn wyliadwrus rhag sgamiau ariannol a chyfreithiol, wrth i’n tîm Safonau Masnach ymuno â Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau, sy’n cael ei gynnal drwy fis Mehefin.

Cafodd dros 1200 o sgamiau ariannol a chyfreithiol eu hadrodd i’r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ym mlwyddyn ariannol 2017/18 – cynnydd o tua chwech y cant ar y flwyddyn flaenorol.

A’r golled ganolrif ar gyfer y sgamiau oedd tua £330 – swm eithaf sylweddol i’w cholli, yn arbennig os gellir ei osgoi yn rhwydd drwy gadw’n effro i’r perygl.

Sgamiau Buddsoddi

Rhai o’r sgamiau sydd efallai’n ymddangos yn fwyaf deniadol yw’r sgamiau buddsoddi, lle mae sgamwyr yn cymryd arnynt eu bod yn ganolwyr neu’n bobl broffesiynol ac yn darbwyllo eu dioddefwyr i drosglwyddo symiau mawr o arian.

Gall y rhain gynnwys gwefannau ffug sy’n cynnig buddsoddiadau mewn crypto-arian fel Bitcoin – ond yn methu â thalu’n ddiweddarach.

Mae Sgamwyr yn aml yn smalio eu bod yn froceriaid stociau ac yn gofyn i farcwyr osod betiau ar gyfranddaliadau ffug, gan weithiau gynnig elw mawr – gwiriwch a ydynt ar Gofrestr yr FCA ac nad ydynt ar y rhestr rhybuddio o gwmnïau i’w hosgoi (dolen gyswllt Saesneg).

Ac maent weithiau’n rhyng-gipio negeseuon e-bost gan gyfreithwyr dilys a chael cyllid o gyfnewidiau eiddo wedi eu cyfeirio at eu cyfrif banc. Rheol dda yw gwirio a ydynt ar yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (dolen gyswllt Saesneg) i weld a ydynt yn ddilys.

“Mae hwn a’r llall yn dweud fod hwn yn fargen anhygoel…”

Fel y dywedodd Abraham Lincoln unwaith: “Peidiwch â chredu popeth rydych yn ei ddarllen ar y we”.

Defnyddiwch ychydig o amheuaeth pan welwch chi bethau’n cael eu dyfynnu ar-lein (gan gynnwys yr uchod!).

Bydd sgamwyr yn defnyddio dyfyniadau ffug i wneud i’r hyn maent yn ei gynnig ymddangos ychydig yn fwy dilys, gan yn aml ddefnyddio enwau yr ymddiriedir ynddynt i wneud i ddeliau amheus ymddangos yn ddeniadol.

Neu weithiau, mae’n rhywbeth mor syml â rhoi llun i berson ar y ddolen neu’r stori, neu arwain darllenwyr i gredu eu bod wedi eu cynnwys mewn rhyw ffordd.

Ond yn y rhan fwyaf o achosion o’r fath, does dim o gwbl gan y person a ddyfynnir i’w wneud â’r hyn sy’n cael ei werthu.

Cynghorion syml – pethau i’w cofio

Os ydynt yn trio eu lwc ar stepen y drws neu’n dwyllwyr craff, mae rhai rheolau syml i’w dwyn i’w cofio wrth ddelio â sgamwyr i’w helpu i gadw eich arian.

  • Byddwch yn wyliadwrus os oes rhywun yn cysylltu â chi yn ddirybudd, hyd yn oed os yw’n dod gan enw rydych yn ei adnabod
  • Peidiwch â rhuthro – ni ddylai fyth fod angen i chi wneud penderfyniad yn y fan a’r lle.
  • Peidiwch byth ag anfon arian i rywun nad ydych erioed wedi cwrdd â nhw.
  • Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc oni bai eich bod yn sicr y gallwch ymddiried yn y person sy’n cysylltu â chi
  • Cerddwch i ffwrdd o hysbysebion swydd sy’n gofyn am arian o flaen llaw.
  • Nid yw cwmnïau cyfrifiadurol go iawn yn gwneud galwadau ffôn digymell i’ch helpu i drwsio eich cyfrifiadur.
  • Ydych chi’n amau twyll? Rhowch y ffôn i lawr, arhoswch am bum munud i glirio’r llinell neu defnyddiwch ffôn arall i ffonio
  • Dull gwerthu sy’n ceisio eich perswadio? Dywedwch: “Na, dim diolch” – nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i drosglwyddo eich arian, dim ots pa mor gwrtais yw’r unigolyn
  • Peidiwch â dioddef yn dawel – siaradwch am dwyll

Yn fwy na dim, cofiwch y Rheol Euraidd – os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol o fod.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm Safonau Masnach ar 01978 298997 neu drwy e-bostio tradingstandards@wrexham.gov.uk

(Yn anffodus does dim arian am ddim!)

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Young People Care Council Pobl Ifanc – byddwch yn rhan o’r materion pwysig!
Erthygl nesaf Creu gemwaith eich hun gyda chanllaw arbenigwr ... Creu gemwaith eich hun gyda chanllaw arbenigwr …

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English