Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pobl Ifanc – byddwch yn rhan o’r materion pwysig!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pobl Ifanc – byddwch yn rhan o’r materion pwysig!
Pobl a lleY cyngor

Pobl Ifanc – byddwch yn rhan o’r materion pwysig!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 25, 2018 10:16 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Young People Care Council
RHANNU

Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu postio trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018

Cynnwys
  • Senedd yr Ifanc
  • Cyngor Gofal
  • Materion Pwysig
  • Beth oedd arolwg eleni yn ei ddangos?
  • Sut mae mynd i’r afael â’r materion hyn?
  • Meic Agored

Mae hi’n Wythnos Gwaith Cymdeithasol…ac ar ddydd Sadwrn, Mehefin 30 mae cyfle i chi fynd draw i Dŷ Pawb i weld rhai o’r gwasanaethau gwych sydd ar gael i bobl ifanc yn yr ardal leol.

Dros y dyddiau nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar bum math o’r gwasanaethau hyn, gan ddechrau gyda Cyngor Cyfranogiad a Gofal.

Felly gwrandewch a chyfranogwch!

Senedd yr Ifanc

Mae Senedd yr Ifanc Wrecsam yn eich annog i gyfranogi trwy drafod eich materion yn uniongyrchol gyda nhw. Y pethau sy’n bwysig i chi, eich grwpiau ac ysgolion a gaiff eu trafod.

Y nod yw rhoi lle i bobl ifanc wrth y bwrdd dadlau pan drafodir newidiadau mawr a allai effeithio ar weddill eu bywydau.

Cafodd y Senedd ei gynnwys yn ein herthygl yn ddiweddarach yn yr wythnos er mwyn i chi gyfeirio ato, neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 317961 neu anfonwch e-bost at youngvoices@wrexham.gov.uk.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Cyngor Gofal

Mae Cyngor Gofal Pobl Ifanc yn casglu safbwyntiau holl blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn Wrecsam, ac yn sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu safbwyntiau nhw ac yn gweithredu arnynt.

Gwneir hyn trwy weithio gyda staff yr Adran Gofal Cymdeithasol Plant i gefnogi gwelliannau i fywydau plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal.

Mae wyth o bobl ifanc rhwng 11-20 oed ac o gefndiroedd gwahanol yn y system ofal yn ffurfio Cyngor Gofal Pobl Ifanc. Cynhelir cyfarfodydd bob mis.

Materion Pwysig

Bob blwyddyn mae’r Cyngor Gofal yn cynnal arolwg i gael gwybod pa faterion sydd fwyaf pwysig i bobl ifanc mewn gofal. Mae canlyniadau’r arolwg hwn penderfynu pa waith fydd y grŵp yn ei wneud y flwyddyn nesaf, i geisio gwella bywydau pobl ifanc.

Beth oedd arolwg eleni yn ei ddangos?

Eleni, datgelodd yr arolwg blynyddol, bod plant a phobl ifanc o’r farn bod problem o ran diffyg preifatrwydd, diffyg cefnogaeth emosiynol neu gyfleoedd rhwydweithio a bod anawsterau o ran trefnu i ffrindiau aros draw neu aros draw yn nhai ffrindiau.

Sut mae mynd i’r afael â’r materion hyn?

Mae’r materion hyn wedi’u datrys drwy ddatblygu ffilm fer gyda sefydliad o’r enw Fixers, a gaiff ei defnyddio yn ystod sesiynau hyfforddi ar gyfer gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol. Aeth pobl ifanc â materion eraill i ddigwyddiad Hawl i Holi yng Nghaerdydd.

Am fwy o wybodaeth am Gyngor Gofal Pobl Ifanc Wrecsam, ffoniwch 01978 295372 neu anfonwch e-bost at youngpeoplescarecouncil@wrexham.gov.uk.

Felly dyna ni!

Os hoffech gyfarfod â’r tîm neu ddarganfod mwy am y gwaith maent yn ei wneud , byddent yn Nhŷ Pawb, ddydd Sadwrn, 30 Mehefin.

Bydd nifer o wasanaethau eraill yno hefyd, yn hyrwyddo eu gwaith a bydd digon o hwyl a gweithgareddau anffurfiol i gymryd rhan ynddynt.

Meic Agored

Mae un o’r digwyddiadau yn sesiwn meic agored sy’n dechrau am 1pm ac yn hwyrach am 3pm, ac mae gwledd ar eich cyfer wrth i Luke Gallagher berfformio cerddoriaeth fyw.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i werthu a phrynu yn Sêl top fwrdd Tŷ Pawb... Dewch i werthu a phrynu yn Sêl top fwrdd Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Eisiau llwyth o arian AM DDIM? Cliciwch yma! Eisiau llwyth o arian AM DDIM? Cliciwch yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Pobl a lle

Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam

Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English