Wrth i ni agosáu at flwyddyn wedi dechrau ymosodiad Rwsia ar Wcráin, rydym yn apelio am fwy o letywyr i gefnogi’r ffoaduriaid hynny sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u gwlad, a chynnig llety iddyn nhw.
Rydym yn annog preswylwyr i ddod ymlaen os gallant ddarparu llety di-rent am isafswm o chwe mis – gall hynny fod yn ystafell sbâr neu unrhyw fath arall o lety.
Mae pob lletywr yn derbyn taliad o £350 y mis fel diolch gan Lywodraeth y DU, gyda’r posibilrwydd o godi i £500 y mis, yn dibynnu ar ba mor hir mae’r gwesteion yn y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi agor eu drysau led y pen i bobl mewn angen yn ystod cyfnod eithriadol o anodd i Wcráin.
“Mae gan Wrecsam hanes balch o groesawu ffoaduriaid, ac mae wedi bod yn arbennig gweld y croeso cynnes i ffoaduriaid o Wcráin.
“Byddwn yn cymell unrhyw un sy’n meddwl am gynnig ystafell sbâr yn eu cartref i gysylltu â ni, os gwelwch yn dda, ac ymuno ag eraill i roi lloches ddiogel i bobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad – gellwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun.
“Bydd ein tîm adsefydlu’n barod i roi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â sut mae’n gweithio.”
I ganfod mwy e-bostiwch homesforukraine@wrexham.gov.uk
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD