Mae plant yn Ysgol yr Holl Saint yng Ngresffordd yn dal wedi’u cyffroi ar ôl ymweliad Brenhinol yr wythnos diwethaf!
Galwodd Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru heibio i gwrdd â staff a disgyblion ddydd Gwener diwethaf.
Dywedodd y Pennaeth, Richard Hatwood: “Roedd yn brofiad gwych i bawb, a bydd y plant yn sôn am y digwyddiad am amser hir.
“Roedd ein plant ni’n wych wrth gynrychioli Ysgol yr Holl Saint a chroesawu Ei Uchelder Brenhinol i’n hysgol.
“Roedd yn achlysur hyfryd ac roedd y Tywysog yn mwynhau sgwrsio â’r plant a’r staff. Roedd yn fore hyfryd ac yn anrhydedd mawr i’r ysgol.”
Yn ystod ei ymweliad, bu Ei Uchelder Brenhinol yn cwrdd â disgyblion, mwynhau rhoi cynnig ar bobi Bara Brith a threulio amser yn gwrando ar y plant yn dysgu am Drychineb Pwll Glo Gresffordd.
Dywedodd James Douglas, disgybl a gyflwynodd ddraig Gymreig wedi’i chrosio â llaw i Dywysog Cymru:
“Roedd hi’n anrhydedd cwrdd â’r Tywysog William ac roedd yn arbennig iawn ei groesawu i’r ysgol. Mae heddiw’n ddiwrnod i’w gofio!”