Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor
Pobl a lleY cyngor

mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor

Diweddarwyd diwethaf: 2018/02/09 at 5:20 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor
RHANNU

Mae tenantiaid y Cyngor yn Wrecsam ar fin profi blwyddyn arall o fuddsoddiad enfawr ar gyfer gwella eu tai.

Cynnwys
Safon uwch ar gyfer ein cartrefiAmserau da ar gyfer tai cyngor

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ger bron Bwrdd Gweithredol y Cyngor ddydd Mawrth yn gofyn i Aelodau gymeradwyo buddsoddiad o £50.3m i’w wario ar wella cartrefi yn 2018/19.
Mae buddsoddiad pellach o £103.3m yn cael ei gynnig ar gyfer y pedair blynedd ganlynol, sef 2019 hyd at 2023.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i’n helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn y flwyddyn 2020.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Safon uwch ar gyfer ein cartrefi

Mae’r adroddiad yn nodi, er mwyn cyrraedd y safon, mae angen i Awdurdodau Lleol lunio rhaglenni gwaith manwl, a fydd yn sicrhau bod gan bobl gyfle i fyw mewn cartrefi sydd:
• mewn cyflwr da
• yn ddiogel
• wedi’u gwresogi’n ddigonol
• â cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern
• wedi eu rheoli’n dda
• wedi’u lleoli mewn ardaloedd deniadol a diogel
• yn gallu bodloni gofynion penodol yr aelwyd gymaint â phosibl (e.e. anableddau penodol)

mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor
mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor
mwy o newyddion da ar y ffordd ar gyfer tenantiaid ein cyngor

Bydd yr adroddiad yn cyd-fynd gyda Chynllun Busnes sy’n amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ac yn cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru, a sut byddwn yn bwriadu defnyddio ein hadnoddau i ddarparu gwasanaeth dai effeithiol i’n tenantiaid.

Bydd y Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o ddarpariaeth y rhaglen.

Amserau da ar gyfer tai cyngor

Dywedodd Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Dyma gyfnod positif iawn i dai’r cyngor yn Wrecsam. Rydym eisoes wedi gweld tair blynedd o fuddsoddiad enfawr i’r rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, ac mae hyn wedi ein caniatáu i gynnal gwaith gwella ar filoedd o dai, yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, systemau gwres canolog newydd, ailweirio trydanol, Inswleiddiad i’r Waliau Allanol, gwaith i’r toeon a gwaith allanol arall.

“Rydym wedi codi safon tai yn uwch nag erioed o’r blaen a bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i barhau â’r gwaith a sicrhau bod ein tenantiaid i gyd yn gallu byw mewn tai gallent fod yn falch ohonynt.”

Bydd y £50.3 miliwn yn cael ei hariannu drwy gyfraniadau Cyfrif Refeniw Tai a thrwy Dderbyniadau Cyfalaf yn sgil gwerthu asedau a benthyca darbodus.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfrannu at y gronfa drwy’r grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr. Mae hyn yn cael ei wobrwyo i awdurdodau lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Griffiths: “Mae cynnal gwaith ar y raddfa hon yn gallu cynnig sialensiau enfawr, fodd bynnag, rydym yn parhau i wneud bob ymdrech i sicrhau bod y gwaith rydym yn ei wneud o’r safon gorau posib, ac rydw i’n falch o ddweud ein bod ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni’r safon erbyn y dyddiad cau yn 2020.”

Os hoffech gael gwybod mwy am Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor

DILYNWCH NI AR SNAPCHAT

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith ail-wynebu ar fin digwydd ar gylchfan – rhagor o fanylion yma Gwaith ail-wynebu ar fin digwydd ar gylchfan – rhagor o fanylion yma
Erthygl nesaf Brymbo: Ffowndrïau, Ffwrneisi a Ffydd Brymbo: Ffowndrïau, Ffwrneisi a Ffydd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English