Mae Ysgol Bryn Alyn yn cynnal prosiect cyffrous sy’n golygu gweithio gyda nifer o ysgolion ar draws Ewrop i edrych ar ffyrdd gwell o ennyn brwdfrydedd myfyrwyr. Gwneir hyn yn bennaf drwy gelf, i helpu disgyblion ymgysylltu’n well ag ystod eang o bynciau.
Mae prosiect ‘y Glec Fawr’ yn cydnabod bod rhai pynciau (yn enwedig rhai nad ydynt yn ymwneud â chelf) yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu neu ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ac felly mae’r prosiect yn ceisio canfod ffyrdd creadigol ac ymarferol i fynd i’r afael â hynny.
Fel rhan o hyn aeth nifer o ddisgyblion blwyddyn 9 i Arrhus yn Nenmarc o 3 i 7 Chwefror, gan aros gyda theuluoedd a mynd i’r ysgol yno. Roedd eu taith hefyd yn cynnwys ymweliad â theatr, gan fynd gefn llwyfan a chymryd rhan mewn gweithdy theatr technegol.
Dull celf
Meddai Mrs Slinn, Pennaeth Ysgol Bryn Alyn: “Dyma brosiect arloesol lle’r ydym ni’n defnyddio dulliau celf; gan ddefnyddio celf fel ffordd i dreiddio i mewn i bynciau di-gelf yn y cwricwlwm.
“Rydym ni’n defnyddio gwaith celf enwog a dylanwadol i archwilio ac ymateb i amrywiaeth o faterion go iawn sy’n effeithio ar ein gwledydd partner yn Ewrop. Gall ein myfyrwyr ddatblygu drwy waith ymarferol, cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal â thrwy gyfathrebu ar-lein at ddibenion gwahanol.
“Gall hyn eu helpu i ddatblygu llawer o sgiliau newydd; yn enwedig sgiliau rhyngbersonol.”
Ysgolion partner
Ar gyfer prosiect y Glec Fawr mae Ysgol Bryn Alyn wedi creu partneriaeth â phedair ysgol yn Ewrop; ym Mhortiwgal, Gwlad Groeg, Twrci a Denmarc.
Rhan bwysig o’r prosiect yw datblygiad proffesiynol parhaus staff. Mae’r staff wedi bod ar gyrsiau hyfforddiant yn Lerpwl, Gwlad Pwyl ac Athen, ac wedi gweithio gyda darlithwyr o Brifysgol Fetropolitan Manceinion i ddatblygu dulliau addysgu a dysgu arloesol.
Mae hyn yn rhan o broses i wella ymwybyddiaeth staff o gryfderau a manteision defnyddio’r celfyddydau, beth bynnag y pwnc.
Cyfle gwych i fyfyrwyr
Bydd myfyrwyr 14-18 oed yn cael cyfle i ymweld ag ysgolion partner (tebyg i’r ymweliad diweddar i Arrhus, Denmarc), gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau mentergarwch.
Meddai Mrs Slinn: “Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gyllidebu, cyfrifo costau, cynllunio rhaglen ac ymgymryd â thasgau amrywiol eraill. Mae arnom ni eisiau iddyn nhw ddangos mentergarwch a datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu yn y dyfodol. Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar sgiliau yn ceisio datblygu meddwl annibynnol a pharatoi myfyrwyr ar gyfer dysgu gydol oes.”
Bydd teuluoedd partner yn croesawu myfyrwyr yn ystod eu hymweliad â’r gwahanol wledydd.
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau rhyngwladol cymysg (gan gadw mewn cysylltiad â’i gilydd ar ôl y prosiect). Ar ôl cyrraedd adref byddant hefyd yn gweithio fel Llysgenhadon Byd-eang yn Ysgol Bryn Alyn.
Strategaethau drama
Rhan arall o’r prosiect yw athrawon yn gweithio gyda staff prifysgol i gaffael sgiliau a dulliau newydd drwy ddefnyddio strategaethau a thechnegau drama.
Bydd y strategaethau a’r technegau hyn yn pontio i bynciau eraill i ysgogi myfyrwyr ac i annog dysgu a dealltwriaeth. Mae’r prosiect yn cael ei astudio’n ofalus gan athrawon prifysgol, gyda’r bwriad o gyhoeddi llyfr ar sut mae’r prosiect wedi effeithio ar athrawon a dysgwyr.
Ffyrdd o fyw iach
Mewn ail brosiect, wedi’i ddatblygu gan fyfyrwyr uwchradd ar gyfer myfyrwyr cynradd, mae’r ysgol yn ceisio hyrwyddo manteision ffyrdd o fyw iach. Bydd myfyrwyr uwchradd yn hyrwyddo hynny drwy gynnal pedwar perfformiad drama yn yr ysgolion cynradd sy’n bwydo’r ysgol uwchradd.
Mae ar y ‘prosiect ffyrdd o fyw iach’ eisiau dangos sut mae bwyta a byw yn iach yn cyfrannu at yr ymdeimlad cyffredinol o les ac yn helpu i atal nifer o gyflyrau.
Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth gyda sefydliadau yng Ngwlad Pwyl, yr Eidal a Ffrainc. Mae’n cynnwys 60 aelod o staff, 270 o ddisgyblion a 12 ysgol.
Bydd athrawon yn mynychu hyfforddiant ac yn gweithio gyda phlant hŷn i gynllunio ac ymarfer eu perfformiad eu hunain yn seiliedig ar un agwedd o’r prosiect.
Meddai Mrs Noon, Pennaeth Adran y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bryn Alyn ac arweinydd y ddau brosiect Erasmus+: “Rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn sy’n gyfle unwaith mewn bywyd i’r myfyrwyr. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r saith gwlad partner a gweld sut mae disgyblion Ysgol Bryn Alyn yn manteisio ar y dulliau addysgu a dysgu arloesol.”
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN