Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol yr Hafod, Johnstown, yn dathlu arolwg cadarnhaol gan Estyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol yr Hafod, Johnstown, yn dathlu arolwg cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol yr Hafod, Johnstown, yn dathlu arolwg cadarnhaol gan Estyn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 2, 2025 3:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ysgol yr Hafod, Johnstown
RHANNU

Mae Ysgol yr Hafod yn Johnstown yn dathlu yn dilyn ei harolwg diweddar gan Estyn.

Ymwelodd arolygwyr â’r ysgol ym mis Medi 2025. Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn nodi:

“Yn Ysgol Gynradd yr Hafod, mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn barod i ddysgu. Mae’r ysgol yn meithrin chwilfrydedd ac yn cefnogi annibyniaeth yn effeithiol, sy’n creu hinsawdd gadarnhaol ar gyfer dysgu.

“Mae amgylcheddau sydd wedi’u cynllunio’n dda a chyfleoedd dysgu annibynnol pwrpasol yn annog disgyblion i archwilio, meddwl yn greadigol a gweithio ar y cyd. Mae’r profiadau hyn yn helpu disgyblion i ddod yn ddysgwyr hyderus, gwydn sy’n ymddwyn yn dda ac yn dangos parch at eraill.

“Mae staff yn gweithio’n effeithiol gyda disgyblion a rhieni i greu diwylliant o uchelgais a disgwyliadau uchel ac mae darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder nodedig yn yr ysgol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud: “Mae’r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth gref ac effeithiol sy’n hyrwyddo disgwyliadau uchel a phartneriaethau cadarnhaol ymhlith staff, rhieni a disgyblion.

“Mae ethos cynhwysol yr ysgol, cyfathrebu clir a phrosesau sydd wedi’u rheoli’n dda yn helpu i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a hyrwyddo lles disgyblion ac mae grwpiau arweinyddiaeth disgyblion yn hyrwyddo balchder yn eu hysgol.

“Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn meithrin perthynas gynnes a chefnogol gyda disgyblion. Mae’r nodweddion hyn yn creu awyrgylch cadarnhaol a phwrpasol ar draws yr ysgol.”

Tynnwyd sylw at ddau ‘giplun’ cadarnhaol o’r ymweliad – cyfleoedd dysgu pwrpasol sy’n meithrin annibyniaeth a chreadigrwydd, a’r gweithdrefnau datblygu proffesiynol effeithiol ac arloesol.

Dywedodd y Pennaeth, Alison Heale: “Rwy’n eithriadol o falch o’r disgyblion, y staff a’r llywodraethwyr yma yn Ysgol yr Hafod a’r hyn rydym wedi’i gyflawni.

“Mae gennym dîm gwych o staff a chymuned gefnogol sy’n gweithio’n andros o galed i ddarparu’r gorau i’n disgyblion bob dydd.

“Diolch i’n rhieni am eu cefnogaeth barhaus a hefyd i’r staff, ac i lywodraethwyr yr ysgol am ymdrechu i ddarparu’r amgylchedd dysgu gorau posibl i’n holl blant.”

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Victoria Williams: “Mae’r corff llywodraethu a minnau wrth fy modd gyda chanlyniad yr adroddiad. Cynhaliwyd yr arolwg yn ystod wythnosau cyntaf y tymor newydd ac rydym yn cymeradwyo ymdrechion ac ymroddiad ein staff eithriadol, gan fod yr ysgol mor barod ac wedi derbyn adroddiad mor ddisglair.

“Rydym yn hynod falch o’n hysgol a’r lle sydd ganddi yn ein cymuned gefnogol. Edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n disgyblion mewn lleoliad meithringar sy’n ysbrydoli positifrwydd, hyder a pharch.”

Gwnaeth arolygwyr ddau argymhelliad yn dilyn yr ymweliad:

  • Sicrhau bod profiadau dysgu yn darparu’r lefel gywir o her i ddiwallu anghenion gwahanol y disgyblion
  • Gwella ansawdd a chysondeb adborth i ddisgyblion fel eu bod yn deall y camau nesaf i wneud cynnydd yn eu dysgu.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Estyn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Women's World Cup Cais hanesyddol ar gyfer Cwpan y Byd Merched 2035
Erthygl nesaf ddiwrnod y cesglir eich biniau Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English