Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi ton newydd cyffrous o berfformwyr a chynrychiolwyr ar gyfer gŵyl ryngwladol 2019, a gynhelir yn Wrecsam, Gogledd Cymru rhwng 16 – 18 Mai. Roedd ton gyntaf o gyhoeddiadau’r ŵyl wedi achosi cynnwrf y mis diwethaf, ac ni fydd yr ail don yn siomi gyda 50 perfformiad anhygoel arall yn ymuno yn yr ŵyl.
Mae’r ail don o berfformiadau byw wedi eu cyhoeddi ar gyfer FOCUS Wales 2019 yn cynnwys…. Neck Deep sy’n lleol o Wrecsam ac yn un o’r llwyddiannau cerddoriaeth newydd mwyaf allan o Gymru yn y blynyddoedd diweddar, gan werthu allan mewn sioeau o amgylch y byd ac yn denu nifer anferth o gefnogwyr byd-eang drwy gydol y broses. Mae rhaglen eu taith bresennol yn cynnwys sioeau ar draws Awstralia ac Ewrop, ac yna bydd y band yn dychwelyd i Wrecsam ar ddydd Sadwrn 18 Mai yn Neuadd William Aston, ar gyfer eu perfformiad cyntaf yn eu tref leol ers 2015.
Hefyd cyhoeddwyd Skindred metel-pync-ragga Casnewydd, sydd wedi cael enw da fel un o berfformiadau byw mwyaf aruthrol Ewrop, drwy rocio llwyfannau mwyaf y byd ac yn ennill Kerrang! a Gwobrau Curo Metel am eu hymdrechion. Mae Skindred yn ymuno â pherfformwyr FOCUS Wales a byddant yn perfformio yn Neuadd William Aston, Wrecsam ddydd Iau, 16 Mai.
Hefyd wedi eu cyhoeddi ymhlith y don newydd o berfformwyr mae’r pwysig Colorama. Gyda Carwyn Ellis yn arwain, mae gan Colorama wyth albwm stiwdio, ac maent wedi perfformio ar lwyfannau gwyliau fel Glastonbury, Latitude a Greenman. Yn ymuno â nhw mae GLOVE, wnaeth berfformio mewn ffordd wahanol iawn yn FOCUS Wales 2018, gan ddenu crëwr Louder than War John Robb. Mae’r ddeuawd yma yn un i’w gwylio yn 2019. Mae Worldcub yn fand newydd cyffrous o Ogledd Cymru. Mae’r rocwyr dwyieithog hyn yn cyfuno aelodau o’r band o Gymru sef CaStLes a Hippies o Baris yn erbyn Gohsts.
I weld y rhestr lawn o’r 50 artist a gyhoeddwyd hyd yma, ymwelwch â www.focuswales.com
Bellach, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda thri diwrnod o baneli, sgyrsiau a chyngor am y diwydiant, bydd yna dros 250 o gynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant cerddorol yn dod i Wrecsam o bedwar ban byd. Mae’r siaradwyr diweddaraf i’w cyhoeddi yn cynnwys: Rachel Cragg (Grŵp Cerddoriaeth Nettwerk, UDA), Kelly Bennaton (DHP Family), Cai Trefor (Gigwise), Anastasia Connor (Song By Toad), Renae Brown (Vision Nine Group), Dom Gourlay(Drowned In Sound), Lix Hunt (Creative Republic Of Cardiff), and John Robb (Louder Than War).
Cadwch lygad allan am fwy o newyddion ar www.focuswales.com ac ar eu cyfryngau cymdeithasol @focuswales.
Mae ceisiadau i berfformio yn yr ŵyl yn dal ar agor ar gyfer artistiaid o’r DU a rhai rhyngwladol drwy wefan FOCUS Wales – y dyddiad cau i ymgeisio yw 1 Rhagfyr.
Cynhelir FOCUS Wales 2019 ar 16, 17 ac 18 Mai mewn amrywiol leoliadau yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau garddwrn mynediad 3 diwrnod llawn ar gyfer holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar gael nawr o www.focuswales.com/tickets am bris cychwynnol gostyngol o £35 yr un.
Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN