Rydym newydd gael gwybod y bydd Ceirw Siôn Corn ym Mhentref Nadolig Wrecsam ar 14, 15 a 16 Rhagfyr!

Byddent yn derbyn digon o ofal ar y bandstand a gall y plant eu bwydo!

Er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhy flinedig ar gyfer Noswyl Nadolig, dim ond am 4 awr y diwrnod y bydd modd eu gweld:

Dydd Gwener, 14 4pm – 8pm
Dydd Sadwrn, 15 Rhagfyr 12pm – 4pm
Dydd Sul, 16 Rhagfyr – 12pm – 4pm

Sicrhewch eich bod yn mynd i weld gweddill y gweithgareddau, sy’n cynnwys perfformiadau gan Rythm Train, Luke Gallagher, Amy Grace, Pantomime Dames a Clockwork Ballerina.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Mae llawer mwy i’w gyhoeddi yn fuan, a sicrhawn fod yr amserlen ar gael yma cyn gynted iddo gael ei gyhoeddi.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hyn yn newyddion arbennig – yr eisin ar y gacen! Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i gael y ceirw yma, a dwi’n siŵr y bydd pawb yn eu gwerthfawrogi, yn arbennig yr ymwelwyr ifanc. Mae ein digwyddiadau Nadolig eleni ymysg y gorau i ni gael erioed, a gobeithiaf y bydd nifer o bobl yn cymryd mantais o bopeth sydd ar gael.”

Gallwch hefyd fanteisio ar barcio am ddim ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor, gan gynnwys Tŷ Pawb, o 10am bob diwrnod pan fydd y Pentref Nadolig ymlaen.

Gallwch ddarganfod mwy am ein gweithgareddau Nadolig a pharcio am ddim yma

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

COFIWCH EICH BINIAU