“Wrth i ni ddod a 2020 i derfyn, roeddwn eisiau cymryd amser i ddiolch i chi oll am eich gwaith caled yn ystod blwyddyn anodd a heriol iawn. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anghredadwy ond rydym oll wedi darganfod cryfder a chadernid i barhau i wneud y gorau o’r sefyllfa er mwyn cadw ein hunain a’n cymunedau yn ddiogel.
“Ond yn anffodus, rydym wedi colli pobl i’r feirws hwn ac rwy’n estyn fy nghydymdeimladau dwysaf i’r rhai ohonoch sy’n dechrau’r flwyddyn newydd heb aelodau o’r teulu, cydweithwyr neu ffrindiau.
“Er ei fod wedi bod yn anodd, rydym yn dechrau 2021 gyda gobaith newydd. Mae dau frechlyn wedi cael eu cymeradwyo ac yn cael eu cyflwyno i’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein mysg. Bydd hyn yn parhau dros y misoedd nesaf, ond bydd dipyn o amser cyn i ni adfer y rhyddid rydym wedi ei golli a gofynnaf i chi oll barhau i aros yn wyliadwrus ac yn ddiogel.
“Dymunaf flwyddyn newydd hapus a diogel i chi a gallaf eich sicrhau y byddaf yn parhau i weithio gyda fy nghydweithwyr a swyddogion yng Nghyngor Wrecsam i gadw Wrecsam yn ddiogel.”