Ydych chi’n pleidleisio drwy’r post yn etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol?
Os gwnewch hynny, efallai y bydd angen i chi anfon enghraifft newydd o’ch llofnod i allu parhau i bleidleisio fel hyn.
Oes angen i mi wneud hyn?
Os gwnaethoch chi ddarparu sampl o lofnod bum mlynedd yn ôl, mae hyn yn berthnasol i chi. Dylech fod wedi derbyn llythyr gan adran gwasanaethau etholiadol Cyngor Wrecsam drwy’r post.
Pam mae angen i mi wneud hyn?
Pan wnaethoch chi gais am eich pleidlais bost, fe roesoch chi sampl o’ch llofnod a’ch dyddiad geni. Gelwir y rhain yn ‘ddynodyddion personol’ ac maent yn cael eu gwirio yn erbyn y llofnod a’r dyddiad geni ar y bleidlais bost. Os nad ydyn nhw’n cyfateb, nid yw eich pleidlais yn cael ei chyfrif. Mae hyn er mwyn atal rhywun arall rhag defnyddio’ch pleidlais.
Gall llofnodion newid dros amser felly os oes gennych bleidlais bost sydd dros bum mlwydd oed, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ofyn i chi am lofnod o’r newydd.
Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn gwneud hyn?
Os na fyddwn yn derbyn ymateb erbyn 21 Ebrill 2025, bydd eich pleidlais bost yn cael ei chanslo. Byddwch yn dal i allu pleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu gallwch gyflwyno ffurflen gais newydd am bleidlais absennol. Gallwch wneud cais am bleidlais bost newydd hyd at 11 diwrnod gwaith cyn etholiad.
Mae hyn ond yn berthnasol i’ch pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol. Ni fydd yn effeithio ar eich pleidlais bost ar gyfer etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Senedd y DU. Byddwn yn ysgrifennu atoch yn 2025 am eich pleidlais bost ar gyfer yr etholiadau hyn.
Os bydd angen mwy o wybodaeth neu gymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol ar 01978 292020.