Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Neges bwysig i bobl sydd â phleidlais bost
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Neges bwysig i bobl sydd â phleidlais bost
Pobl a lle

Neges bwysig i bobl sydd â phleidlais bost

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 5, 2025 4:13 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
postal vote
RHANNU

Ydych chi’n pleidleisio drwy’r post yn etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol?

Cynnwys
  • Oes angen i mi wneud hyn?
  • Pam mae angen i mi wneud hyn?
  • Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn gwneud hyn?

Os gwnewch hynny, efallai y bydd angen i chi anfon enghraifft newydd o’ch llofnod i allu parhau i bleidleisio fel hyn.

Oes angen i mi wneud hyn?

Os gwnaethoch chi ddarparu sampl o lofnod bum mlynedd yn ôl, mae hyn yn berthnasol i chi. Dylech fod wedi derbyn llythyr gan adran gwasanaethau etholiadol Cyngor Wrecsam drwy’r post.

Pam mae angen i mi wneud hyn?

Pan wnaethoch chi gais am eich pleidlais bost, fe roesoch chi sampl o’ch llofnod a’ch dyddiad geni. Gelwir y rhain yn ‘ddynodyddion personol’ ac maent yn cael eu gwirio yn erbyn y llofnod a’r dyddiad geni ar y bleidlais bost. Os nad ydyn nhw’n cyfateb, nid yw eich pleidlais yn cael ei chyfrif. Mae hyn er mwyn atal rhywun arall rhag defnyddio’ch pleidlais.

Gall llofnodion newid dros amser felly os oes gennych bleidlais bost sydd dros bum mlwydd oed, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ofyn i chi am lofnod o’r newydd.

Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn gwneud hyn?

Os na fyddwn yn derbyn ymateb erbyn 21 Ebrill 2025, bydd eich pleidlais bost yn cael ei chanslo. Byddwch yn dal i allu pleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu gallwch gyflwyno ffurflen gais newydd am bleidlais absennol. Gallwch wneud cais am bleidlais bost newydd hyd at 11 diwrnod gwaith cyn etholiad.

Mae hyn ond yn berthnasol i’ch pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol. Ni fydd yn effeithio ar eich pleidlais bost ar gyfer etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Senedd y DU. Byddwn yn ysgrifennu atoch yn 2025 am eich pleidlais bost ar gyfer yr etholiadau hyn.

Os bydd angen mwy o wybodaeth neu gymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol ar 01978 292020.

Rhannu
Erthygl flaenorol Sut ydych chi'n defnyddio'ch Cymraeg yn Wrecsam? Sut ydych chi’n defnyddio’ch Cymraeg yn Wrecsam?
Erthygl nesaf Tŷ Pawb yn dathlu masnachwyr Wrecsam mewn arddangosfa newydd Tŷ Pawb yn dathlu masnachwyr Wrecsam mewn arddangosfa newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English