Climate Change

Roeddem wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 mewn ymateb i newid hinsawdd ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio ar y pedwar maes yn ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio yr ydym yn canolbwyntio arno:

  • Adeiladau ac ynni
  • Cludiant a Symudedd
  • Defnydd Tir a Seilwaith Gwyrdd
  • Caffael a Chadwyni Cyflenwi (sut yr ydym yn derbyn ein nwyddau a’n gwasanaethau)

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y dull cywir ar gyfer y blaenoriaethau hyn, bydd staff ym mhob ardal yn cael eu gwahodd i fod yn Llythrennog o ran Carbon.

Bydd yr hyfforddiant yn gyflwyniad ardderchog i’r materion a’r datrysiadau fydd yn ein helpu ni ar ein ffordd i gyflawni statws “Sefydliad Llythrennog o ran Carbon” fydd yn golygu y byddwn yn:

  • Ystyried carbon ym mhopeth yr ydym yn ei wneud
  • Codi statws datgarboneiddio wrth wneud penderfyniadau
  • Cynyddu ein capasiti i gefnogi a chyfrannu at y gwaith hwn

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “bydd datgarboneiddio yn ganolog i benderfyniadau sy’n ymwneud â meysydd blaenoriaeth wrth symud ymlaen.

“Rydym eisoes wedi gwneud dechrau gwych drwy osod mannau gwefru ceir trydan mewn meysydd parcio a pharciau gwledig, prynu cerbydau trydan ac wrth gwrs, cynhyrchu incwm i gefnogi’r prosiect o’n cae pŵer solar.”

“Mae hyn yn ogystal â’r holl blannu coed sydd wedi bod yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol fydd yn parhau yn y misoedd i ddod i’n helpu i gyrraedd ein targed carbon sero erbyn 2030.”

Mae gennym fwy o gyfleoedd i ddod ar gyfer staff a chynghorwyr i gymryd rhan yn yr hyfforddiant addysgol iawn, rhyngweithiol sy’n agor llygad ble gall pob un nodi rhywbeth y byddant yn ei wneud yn eu bywydau eu hunain ac addo newid rhywbeth arall yn y sefydliad.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH