Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Coed, Coed a Mwy o Goed, wth i ni anelu at fod yn garbon niwtral
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Coed, Coed a Mwy o Goed, wth i ni anelu at fod yn garbon niwtral
Y cyngor

Coed, Coed a Mwy o Goed, wth i ni anelu at fod yn garbon niwtral

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 14, 2022 4:29 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate Change
RHANNU

Wrth i ni edrych tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2030, rydym yn edrych ar sut rydym yn gofalu am ein hamgylchedd gwyrdd yn ofalus iawn.

Mae ei iechyd yn hanfodol o ran dangos cynnydd i sicrhau ein bod yn parhau i leihau ein hôl troed carbon, yn ogystal ag yn lle dymunol i fod.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Un o’r ffyrdd a wnawn hyn, yw drwy blannu coed, gwrychoedd a choed ffrwythau traddodiadol – rydym wei plannu llwyth ohonynt. Plannwyd dros 1,500 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hyd yn oed mwy i’w plannu dros y misoedd nesaf, megis Derwen Mes Di-goes, Derwen Draddodiadol, Pinwydden yr Alban, Bedwen Arian, Coed Criafol, coed afal, gellyg ac eirin, sydd i gyd yn fathau traddodiadol o ffrwythau, ac yn Gymreig yn bennaf.

Rydych yn garbon niwtral os ydi swm yr allyriadau CO₂ rydych yn ei ryddhau i’r atmosffer yr un fath a swm yr allyriadau CO₂ rydych yn ei dynnu o’r atmosffer, felly mae coed yn hanfodol i’n helpu ni ar ein taith tuag at fod yn ddi-garbon, a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Maent yn lleihau’r cyfanswm o nwyon tŷ gwydr yn ein atmosffer drwy amsugno carbon deuocsid (CO2).

Nid oes ffigur clir y gallwn ei roi ar y CO2 maent yn amsugno allan o’r atmosffer, gan fod hyn yn dibynnu ar fath a maint y goeden, ond gallwn fod yn sicr, gyda’n gilydd y galllwn wneud gwahaniaeth.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Nid yn unig yw’r holl blannu’n helpu ein hamgylchedd, ond mae’n creu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt hefyd, gan helpu i greu amgylchedd sy’n fuddiol i ni gyd ei fwynhau.

“Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn rhywbeth yr ydym yn canolbwyntio drylwyr arno, ac mae hwn yn un menter yn unig sydd wedi cael ei gynnal, wrth i ni ganolbwyntio ar ein meysydd blaenoriaeth, Adeiladau ac ynni, Defnydd Tir ac Isadeiledd Gwyrdd, Cludiant a symudedd, a Chaffael a’r gadwyn gyflenwi.”

Bydd ychwanegiad tir yn Erddig i fod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru hefyd yn cynyddu’r nifer o goed sydd gennym yn Wrecsam.

Wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau i leihau carbon, a mynd i’r afael â newid hinsawdd ymhob maes blaenoriaeth, rydym hefyd yn:

  • Cyflwyno cerbydau trydan i’r fflyd pan mae angen eu disodli
  • Cyflwyno beiciau trydan i staff eu defnyddio, gan gynnwys beic ecargo newydd – i wneud y siwrnai i’r gwaith yn haws
  • Asesu ein hysgolion i’w gwneud mor garbon isel â phosib
  • Parhau i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau bod ein hadeiladau newydd, wedi’u hadnewyddu yn ddi-garbon ac yn arbed ynni
  • Cynyddu’r rhwydwaith o bwyntiau gwefru ceir trydan ar ein tir
  • Gweithio gyda’n staff i ganolbwyntio ar ostwng carbon yn eu meysydd gwasanaeth
  • Gweithio i gyflawni statws Llythrennedd Carbon ar gyfer yr holl sefydliad
  • Profi rhai syniadau newydd i wella ansawdd aer o amgylch rhai ysgolion
  • Gweithio gyda Xplore! i gynnal gweithdai ysgolion i greu arddangosfa ryngweithiol gyffrous i bawb gael ymweld a mwynhau

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Test Purchase Trwyddedai yn llwyddo mewn prawf
Erthygl nesaf Climate Change Newid Hinsawdd – rydym yn anelu i fod yn Sefydliad Llythrennog o ran Carbon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English