Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion da i siopwyr – bydd meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim eto ym mis Rhagfyr!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Newyddion da i siopwyr – bydd meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim eto ym mis Rhagfyr!
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Newyddion da i siopwyr – bydd meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim eto ym mis Rhagfyr!

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 10, 2017 12:05 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Newyddion da i siopwyr – bydd meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim eto ym mis Rhagfyr!
RHANNU

Newyddion da ar gyfer y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.

Unwaith eto, bydd modd defnyddio holl feysydd parcio’r Cyngor yn Wrecsam yn rhad ac am ddim trwy gydol mis Rhagfyr.

Er y bydd modd parcio am ddim, bydd cyfyngiadau amser mewn grym – felly os ydych yn parcio mewn maes parcio arhosiad byr, cofiwch y bydd cyfyngiadau amser yn dal i fod yn berthnasol i chi.

Bydd lleoedd parcio i’r anabl yn dal i fod ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas yn unig.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Bydd modd parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio’r Cyngor o 1 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr.

Anogir preswylwyr i wneud defnydd o’r cynnig parcio am ddim a dod i Wrecsam i wneud eu siopa Nadolig.

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd y cynnig parcio am ddim yn boblogaidd iawn ymysg y cyhoedd y llynedd ac felly rydym wedi penderfynu cynnig hyn eto eleni.

“Bydd ein holl feysydd parcio ar gael i’w defnyddio am ddim trwy gydol y mis.

“Ond hoffwn atgoffa pobl i fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau amser – dylai’r rheiny sydd am dreulio’r diwrnod yn Wrecsam ddefnyddio maes parcio arhosiad hir.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Bithell am roi’r cynnig i barcio am ddim ym mis Rhagfyr eto eleni ar gyfer tymor Nadolig 2017 – rwy’n siŵr y bydd y cynnig yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan siopwyr Nadolig a busnesau canol y dref hefyd.

“Rwy’n annog preswylwyr ac ymwelwyr o du hwnt i’r sir i fanteisio ar y cynnig parcio am ddim a dod i Wrecsam i wneud eu siopa Nadolig.

“Fel yr ydym wedi dangos trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chanolfannau siopa Dôl yr Eryrod, Y Werddon a Pharc Siopa Border, mae gennym hefyd amrywiaeth wych o fusnesau annibynnol yng nghanol y dref a bydd llawer ohonynt yn gallu darparu ar gyfer eich anghenion siopa Nadolig.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Pobl Ifanc – “gallwch chi wneud gwahaniaeth” Pobl Ifanc – “gallwch chi wneud gwahaniaeth”
Erthygl nesaf Cynghorwyr i holi rheolwyr iechyd mewn cyfarfod – dilynwch y gweddarllediad byw Cynghorwyr i holi rheolwyr iechyd mewn cyfarfod – dilynwch y gweddarllediad byw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English