Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynghorwyr i holi rheolwyr iechyd mewn cyfarfod – dilynwch y gweddarllediad byw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynghorwyr i holi rheolwyr iechyd mewn cyfarfod – dilynwch y gweddarllediad byw
Pobl a lleY cyngor

Cynghorwyr i holi rheolwyr iechyd mewn cyfarfod – dilynwch y gweddarllediad byw

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 10, 2017 4:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cynghorwyr i holi rheolwyr iechyd mewn cyfarfod – dilynwch y gweddarllediad byw
RHANNU

Mae sut mae gwasanaethau iechyd yn gweithio, beth maent yn ei wneud, a sut y gallant wella yn eithriadol o bwysig i ni i gyd.

Gyda chyllidebau wedi eu tynhau ar draws yr holl sectorau cyhoeddus, mae byrddau iechyd yn edrych ar ffyrdd o ymdopi gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau.

Os oes gennych ddiddordeb yn sut mae’r gwasanaethau iechyd yn gweithredu ac os ydych am wybod mwy am sut mae gwasanaethau yn newid, mae’n bosibl y bydd gennych ddiddordeb yn yr isod.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mesurau Arbennig, meddygfeydd a recriwtio Meddygon Teulu

Bydd uwch swyddogion iechyd yn wynebu cwestiynau gan gynghorwyr yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Diogelu, Cymunedau a Lles Cyngor Wrecsam ddydd Mercher, Hydref 11.

Bydd aelodau o’r pwyllgor yn cyflwyno cwestiynau i gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Hwn fydd un o’r cyfarfodydd sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn rhwng y Pwyllgor Craffu â phobl o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn cynrychioli’r bwrdd bydd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal (Dwyrain); Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol (Dwyrain) a Jon Falcus, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Wasanaethau Cymunedol (Dwyrain).

Bydd Aelodau yn holi cwestiynau am raglen Mesurau Arbennig y Bwrdd, ailfodelu gwasanaethau Gofal Cynradd – fel meddygfeydd – a recriwtio Meddygon Teulu yn ardal Wrecsam.

Mae rhaglen lawn y cyfarfod ar gael yma.

Gweddarllediad

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 10.30am fore dydd Mercher, a bydd gweddarllediad byw o’r cyfarfod ar gael arlein.

Os na allwch weld y gweddarllediad byw, bydd recordiad o’r cyfarfod ar gael yn ein harchif gweddarlledu.

Dywedodd y Cynghorydd Derek Wright, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rwy’n gwybod fod materion yn ymwneud â’r bwrdd iechyd a chyflenwi gwasanaeth iechyd yn Wrecsam, Gogledd Cymru o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion hyn i ddilyn y cyfarfod ar-lein.

“Dylai unrhyw un sydd am wybod mwy am sut mae’r gwasanaeth iechyd yn gweithio wylio’r cyfarfod – un ai yn fyw neu wedi ei recordio – ac rwy’n sicr y bydd y cyfarfod yn un diddorol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion da i siopwyr – bydd meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim eto ym mis Rhagfyr! Newyddion da i siopwyr – bydd meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim eto ym mis Rhagfyr!
Erthygl nesaf Dydyn ni ddim eisiau eich hen bunnoedd! Dydyn ni ddim eisiau eich hen bunnoedd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English