Yn dilyn tranc D Jones a’i Fab, rydym wedi bod yn gweithio’n hynod galed i drefnu gwasanaethau ar gyfer y cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt.
Er bod llawer o wasanaethau wedi eu sicrhau, mae yna nifer o ardaloedd sy’n parhau wedi eu heffeithio.
Ond rydym yn falch o gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf y darperir nifer o wasanaethau amgen.
Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref
I’r trigolion hynny yr effeithir arnynt o ganlyniad i golli Gwasanaethau 42 a 44, bydd amrywiad i wasanaeth Cyswllt Tref 1 a Chyswllt Tref 2, a weithredir gan Valentines Coaches, yn gwasanaethu’r ardaloedd hynny oedd yn arfer cael eu gwasanaethu gan D Jones a’i Fab.
Yn amodol ar yr awdurdod angenrheidiol gan Gomisiynydd Traffig Cymru, bydd y gwasanaeth hwn yn dechrau ar 19 Chwefror.
X-5 i wasanaethu Rhiwabon
Yn ogystal, rydym hefyd yn falch o gyhoeddi drwy drafodaethau gyda Chyngor Sir Ddinbych, bydd y trigolion hynny yr effeithir arnynt o ganlyniad i wasanaeth rhif 6 Wrecsam – Rhiwabon yn dod i ben, yn cael budd o addasiad i’r gwasanaeth X5 Corwen-Llangollen-Wrecsam gan Coastline Taxis.
Bydd yr X5 yn cael ei ddargyfeirio i ardaloedd yn Rhiwabon, gan gynnwys Pont Adam a’r ystadau a leolir ar Ffordd Llys Newydd.
Bydd gwasanaeth Rhif 5 yn cynnwys Rhostyllen
Yn olaf, rydym wedi cael gwybod o 11 Mawrth y bydd gwasanaeth Rhif 5 rhwng Wrecsam a Llangollen yn cael ei weithredu’n fasnachol gan Fysiau Arriva Cymru, yn gwneud nifer o newidiadau – gan gynnwys mynd yn ôl i’r llwybr teithio gwreiddiol sy’n gwasanaethu Rhostyllen, ynghyd â chynnydd yn y nifer o wasanaethau nos.
Mae trigolion yn cael eu cynghori i wirio’r amserlen ar gyfer pob un o’r gwasanaethau hyn a adnewyddwyd, felly ni fyddant yn amserlenni tebyg.
“Hynod falch gyda’r gwaith i sicrhau gwasanaethau newydd yn lle’r gwasanaethau blaenorol”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel Cyngor, rydym yn llwyr gydnabod rôl bwysig y rhwydwaith bysiau i sicrhau mynediad i’n trigolion i waith, addysg a gwasanaethau hanfodol.
“I lawer o bobl, yn arbennig y bobl mwyaf diamddiffyn, y bws yw’r unig fath o gludiant ar gael ac mae’n hynod bwysig iddynt.
“Mae tranc D Jones & Son Ltd wedi bod yn gyfnod anodd a heriol iawn i lawer o bobl ac rwy’n falch iawn gyda’r gwaith a wnaed i sicrhau gwasanaethau newydd ac amgen i’r cymunedau hynny sydd wedi eu heffeithio.
“Bydd amserlenni newydd ar gyfer y newidiadau uchod i’r gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi’n fuan ac ar gael ar wefan y Cyngor.
“Ni fydd y rhain yn amserlenni tebyg i amserlenni a weithredwyd yn flaenorol, ond yn darparu gwasanaeth i’r ardaloedd hyn.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT