Mae yna newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd ar ôl i arolygwyr ganfod ei bod wedi gwneud cynnydd da yn dilyn arolwg cynharach, gyda nifer o welliannau yn ystod 2018.
Yn dilyn arolwg gan Estyn yn 2017, roedd yr ysgol wedi’i chategoreiddio ei bod angen gwneud gwelliannau sylweddol.
Ond yn dilyn ymweliad dilynol ac adroddiad gan y corff arolygu, mae’r ysgol wedi gwneud y gwelliannau angenrheidiol, sy’n golygu fod Estyn nawr wedi’i thynnu o’r categori.
Mae’r gwelliannau a wnaed gan yr ysgol yn cynnwys:
Codi safonau yng nghyfnod allweddol 3, yn arbennig ar lefelau uwch, a gwella sgiliau ysgrifennu bechgyn
- Rhannu arferion da ar draws yr ysgol i roi hwb i safon a chywirdeb marcio, ac ymateb disgyblion i sylwadau athrawon
- Gostwng lefelau gwaharddiadau dros dro
- Gweithredu argymhellion hunanasesu’r ysgol a rhannu arfer orau ymysg yr holl adrannau i hyrwyddo rhagoriaeth
“Yn falch iawn gyda chanlyniad yr adroddiad monitro”
Meddai Catrin Pritchard, Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd: “Wrth gwrs, rydym yn falch iawn gyda chanlyniad ein hadroddiad monitro Estyn a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi bod yr ysgol nawr wedi’i thynnu o’r rhestr o ysgolion sydd angen gwneud gwelliannau sylweddol.
“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r gwaith caled gan holl aelodau o staff yr ysgol ers yr arolwg craidd. Mae Estyn yn nodi bod yr ysgol wedi cyflwyno ystod priodol o strategaethau i wella perfformiad disgyblion, ac mae’n cynnwys cyfeiriad a disgwyliadau clir. Rydym wedi cael ein disgrifio fel ysgol gynhwysol iawn, sy’n sicrhau bod pob disgybl yn gallu cwblhau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent hefyd wedi nodi ein bod wedi cryfhau trefniadau i geisio a gweithredu ar farn disgyblion a rhieni – maes allweddol i ni fel cymuned ysgol.
“Mae’r staff a llywodraethwyr yn Ysgol Morgan Llwyd wedi dangos eu hymroddiad parhaus tuag at yr ysgol a disgyblion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’r dechrau yn unig yw hyn. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwelliant parhaus gyda gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol yr ysgol: i ddarparu addysg ragorol i holl ddisgyblion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.”
Meddai Trefor Jones-Morris, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd: “Roedd yn bleser o’r mwyaf derbyn y newyddion fod Estyn yn ystyried bod yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd i gael ei thynnu o’r rhestr o ysgolion sydd angen gwelliannau sylweddol.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd a heriol i’r ysgol a chymuned yr ysgol. Diolch i staff, bu gwelliant mewn canlyniadau a phrofiadau a ddarparwyd i’r disgyblion. Mae’r Uwch Dîm Rheoli wedi rhannu ei gynlluniau gwella ar gyfer y dyfodol agos gyda’r Llywodraethwyr, ac mae gennym bob ffydd y bydd yr ysgol yn parhau i wella.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn o weld fod Estyn wedi cydnabod y gwaith a’r ymdrech a wnaed gan bawb yn Ysgol Morgan Llwyd, a thynnu’r ysgol o’i restr o’r rhai sydd angen gwelliant sylweddol.
“Byddwn yn parhau i gefnogi’r ysgol a’i dîm arwain wrth iddynt wneud gwelliannau pellach, tuag at eu nod o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!DOES DIM OTS GEN