Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd
Busnes ac addysgPobl a lle

Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 11, 2019 10:48 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd
RHANNU

Mae yna newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd ar ôl i arolygwyr ganfod ei bod wedi gwneud cynnydd da yn dilyn arolwg cynharach, gyda nifer o welliannau yn ystod 2018.

Yn dilyn arolwg gan Estyn yn 2017, roedd yr ysgol wedi’i chategoreiddio ei bod angen gwneud gwelliannau sylweddol.

Ond yn dilyn ymweliad dilynol ac adroddiad gan y corff arolygu, mae’r ysgol wedi gwneud y gwelliannau angenrheidiol, sy’n golygu fod Estyn nawr wedi’i thynnu o’r categori.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Mae’r gwelliannau a wnaed gan yr ysgol yn cynnwys:

Codi safonau yng nghyfnod allweddol 3, yn arbennig ar lefelau uwch, a gwella sgiliau ysgrifennu bechgyn

  • Rhannu arferion da ar draws yr ysgol i roi hwb i safon a chywirdeb marcio, ac ymateb disgyblion i sylwadau athrawon
  • Gostwng lefelau gwaharddiadau dros dro
  • Gweithredu argymhellion hunanasesu’r ysgol a rhannu arfer orau ymysg yr holl adrannau i hyrwyddo rhagoriaeth

“Yn falch iawn gyda chanlyniad yr adroddiad monitro”

Meddai Catrin Pritchard, Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd: “Wrth gwrs, rydym yn falch iawn gyda chanlyniad ein hadroddiad monitro Estyn a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi bod yr ysgol nawr wedi’i thynnu o’r rhestr o ysgolion sydd angen gwneud gwelliannau sylweddol.

“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r gwaith caled gan holl aelodau o staff yr ysgol ers yr arolwg craidd. Mae Estyn yn nodi bod yr ysgol wedi cyflwyno ystod priodol o strategaethau i wella perfformiad disgyblion, ac mae’n cynnwys cyfeiriad a disgwyliadau clir.   Rydym wedi cael ein disgrifio fel ysgol gynhwysol iawn, sy’n sicrhau bod pob disgybl yn gallu cwblhau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.   Maent hefyd wedi nodi ein bod wedi cryfhau trefniadau i geisio a gweithredu ar farn disgyblion a rhieni – maes allweddol i ni fel cymuned ysgol.

“Mae’r staff a llywodraethwyr yn Ysgol Morgan Llwyd wedi dangos eu hymroddiad parhaus tuag at yr ysgol a disgyblion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’r dechrau yn unig yw hyn.   Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwelliant parhaus gyda gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol yr ysgol: i ddarparu addysg ragorol i holl ddisgyblion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.”

Meddai Trefor Jones-Morris, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd: “Roedd yn bleser o’r mwyaf derbyn y newyddion fod Estyn yn ystyried bod yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd i gael ei thynnu o’r rhestr o ysgolion sydd angen gwelliannau sylweddol.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd a heriol i’r ysgol a chymuned yr ysgol.   Diolch i staff, bu gwelliant mewn canlyniadau a phrofiadau a ddarparwyd i’r disgyblion.   Mae’r Uwch Dîm Rheoli wedi rhannu ei gynlluniau gwella ar gyfer y dyfodol agos gyda’r Llywodraethwyr, ac mae gennym bob ffydd y bydd yr ysgol yn parhau i wella.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn o weld fod Estyn wedi cydnabod y gwaith a’r ymdrech a wnaed gan bawb yn Ysgol Morgan Llwyd, a thynnu’r ysgol o’i restr o’r rhai sydd angen gwelliant sylweddol.

“Byddwn yn parhau i gefnogi’r ysgol a’i dîm arwain wrth iddynt wneud gwelliannau pellach, tuag at eu nod o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button][button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bounce Back Loan Cyllid grant poblogaidd yn newid i gefnogi mwy o bobl leol
Erthygl nesaf Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English