Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych ar gyfer defnyddwyr bysiau yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Newyddion gwych ar gyfer defnyddwyr bysiau yn Wrecsam
ArallPobl a lle

Newyddion gwych ar gyfer defnyddwyr bysiau yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2018 9:02 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Wrexham news - new bus services
RHANNU

Yn fuan bydd defnyddwyr bysiau yn Wrecsam yn manteisio ar lansiad gweithredwyr bysiau fforddiadwy newydd.

Cynnwys
  • “Adfer gwasanaethau a gollwyd gan nifer”
  • “10 gyrrwr wedi ei recriwtio”
  • “Teithwyr yn teimlo maent yn haeddu mwy”

Mae EasyCoach yn rhan o deulu brandiau easyGroup, a chaiff ei arwain gan y biliwnydd a sefydlydd easyJet, Sir Stelios Haji-Ioannou.

O Ddydd Mercher y 27 o Fehefin bydd bysiau oren a gwyn, nod masnach easyCoach yn gwasanaethu yn Wrecsam a’r ardal gyfagos, ac mae’r dyn sy’n arwain y fenter, y sefydlydd Andrew Martin, yn hyderus y bydd trigolion lleol yn mwynhau y gwasanaeth gwell sy’n cynnig prisiau is.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Dywed Andrew: “Mae gwasanaeth rhwydwaith bysiau Wrecsam wedi eu prisio’n wael yn ddiweddar, gyda chau dau allan o dri o weithredwyr sylweddol ers 2016. Nid yw’r ddarpariaeth gan un gweithredwr pennaf yn unig yn wych i’r defnyddwyr, felly gwelsom gyfle i agor brand newydd a fyddai’n cynnig chwa o awyr iach i’r dref. Rydym yn gwarantu prisiau a fydd bob amser yn is na’r prif gystadleuydd sy’n cynnig mwy i gwsmeriaid am eu harian.”

Caiff EasyCoach ei lansio gyda phedwar prif wasanaeth. Mae Llwybr 2 yn gwasanaethu o Groesoswallt i Wrecsam pum munud yn gynt na Arriva West Midlands. Yn yr un modd, bydd 2D Wrecsam i Gefn-Mawr yn gadael pum munud yn gynt na gwasanaeth Arriva 2C.

“Adfer gwasanaethau a gollwyd gan nifer”

Gan gydweithio â’i gilydd, bydd llwybrau easyCoach yn darparu gwasanaeth o Blas Madoc, drwy Rhiwabon a Johnstown, i Orsaf Fysiau Wrecsam bob chwarter awr. Bydd EasyCoach hefyd yn adfer y bws a fethwyd yn arw o Wrecsam i Stad Ddiwylliannol Wrecsam, yn gweithredu fel llwybr 42. Yn debyg iawn, bydd llwybr newydd 44 easyCoach yn cynnig gwasanaeth o Wrecsam i Lôn Barker bob hanner awr.

Dywed Andrew: “Mae mynd allan o’r dref i’r stad ddiwydiannol, yn ogystal ag i’r dref o ardaloedd preswyl, wedi bod yn hynod o gymhleth i unrhyw un heb gar. Mae EasyCoach yn barod i newid hynny. Heblaw am brisiau rhatach, bydd gennym hefyd gynigion arbennig trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chonsesiwn i deithwyr sydd wedi ymddeol neu’n anabl.”

Bydd EasyCoach hefyd yn ei gwneud hi’n symlach a rhatach i deithio o Wrecsam i Feysydd Awyr Lerpwl a Manceinion.

Eglura Andrew: “Rydym eisoes yn rhedeg cludiant maes awyr easyBus o Wrecsam. Gall unrhyw un sydd â thocyn easyBus i’r maes awyr deithio am ddim ar fysiau easyCoach i orsaf fysiau Wrecsam, ac yna newid yn syml i’r gwasanaeth maes awyr. Nid yn unig y mae hynny yn arbed arian, ond mae hefyd yn golygu cyfleusrwydd i deithwyr a llai o geir ar y ffyrdd.”

Daw gwraig Andrew, Sarah yn wreiddiol o gyffiniau Amwythig, felly mae’r entrepreneur, sy’n ddiweddar wedi gwerthu ei fusnes Ffrengig easyBus i’r National Express Group, yn falch iawn o greu swyddi yn yr ardal leol.

“10 gyrrwr wedi ei recriwtio”

Hyd yma, mae 10 o yrwyr wedi eu recriwtio, gan gynnwys un sydd wedi penderfynu dod allan o ymddeoliad. Bydd pob un yn cael eu hyfforddi yn drylwyr er mwyn darparu’r gwasanaeth cwsmeriaid gorau cyn y lansiad ar y 27 Mehefin.

Dywed Andrew: “Nid oes unrhyw sgriniau diogelwch ar ein bysiau felly nid yw’r gyrrwr ar wahân nag wedi ei guddio i ffwrdd. Rydym eisiau iddynt fod yn agored ac ar gael i helpu’r cyhoedd, sy’n adeiladu perthynas gyda’n cwsmeriaid gwerthfawr.”

Mae gwaith ar hyn o bryd yn cael ei gwblhau ar ddepo easyCoach yn Rhosymedre, sy’n cael ei beintio’n oren er mwyn cyd-fynd gyda lliwiau hawdd eu hadnabod easyGroup.

Os bydd gwasanaeth Wrecsam yn profi’n llwyddiant, gobaith Andrew yw ehangu’r busnes i drefi eraill yn ogystal.

“Teithwyr yn teimlo maent yn haeddu mwy”

Dywed: “Mae gweledigaeth easyGroup yn sicr yn cystadlu yn erbyn yr enwau mwyaf. Rydym yn ymwybodol yn ôl yr adborth yn Wrecsam bod teithwyr yn teimlo eu bod yn haeddu mwy, drwy brisiau rhatach a gwasanaeth gwell, mae easyCoach yn barod i ddarparu hynny. Rydym yn gwmni yn y DU sy’n falch o fuddsoddi yn y gymuned leol. Er ein bod yn canolbwyntio ar Wrecsam ar hyn o bryd, rydym yn adnabod ardaloedd eraill lle mae potensial i roi’r brand ar waith.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Chludiant, bod y diwydiant bysiau wedi dirywio’n sylweddol yn ddiweddar gan groesawu gwasanaethau a chwmnïau newydd i Wrecsam. Ychwanegodd bod Easy Coach wedi symud eu depo i Wrecsam o’r Amwythig sydd hefyd yn darparu swyddi newydd a hwb i’r economi lleol. Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno pob llwyddiant i’r fenter newydd.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Yr hynod rhyfeddol a'r lleol - Arddangosfeydd newydd ar eu ffordd i Tŷ Pawb... Yr hynod rhyfeddol a’r lleol – Arddangosfeydd newydd ar eu ffordd i Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Dathliad i anrhydeddu’r Awyrlu Brenhinol Dathliad i anrhydeddu’r Awyrlu Brenhinol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English