Mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal digwyddiad i lansio cyfres newydd o farddoniaeth sy’n cynnwys beirdd lleol o fri. Mae Yer Ower Voices! yn flodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg dafodieithol sy’n dathlu tafodieithoedd rhanbarthol ar hyd a lled Cymru.
Dyma’r flodeugerdd gyntaf o’i math i gael ei chyhoeddi.
Ymhlith y beirdd lleol a fydd yn darllen eu gwaith fydd Aled Lewis Evans a Sara Louise Wheeler. Mae’r casgliad wedi’i olygu gan Mike Jenkins, ac mi fydd Pete Akunwunmi a Leigh Manley hefyd yn darllen eu cerddi.Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn y llyfrgell ddydd Mercher 21 Chwefror am 7pm. Mae’n rhad ac am ddim ond mae angen archebu lle drwy ffonio 01978 292090.
Mae’r flodeugerdd wreiddiol hon yn unigryw o ran ei chyflwyniad o farddoniaeth dafodieithol yng Nghymru heddiw. Mae hi’n unigryw hefyd o ran y lle mae hi’n ei roi i gerddi Cymraeg tafodieithol. Mae Yer Ower Voices! yn dangos yn glir sut mae ysgrifennu tafodieithol yn gallu bod yn berthnasol yn lleol ac yn fyd-eang. Mae barddoniaeth dafodieithol yn gallu rhoi llais i gymunedau a grwpiau cymdeithasol sydd, yn draddodiadol, wedi’u tan-gynrychioli fel darllenwyr a beirdd. Rydym ni’n gobeithio y bydd y llyfr a’r digwyddiad hwn yn ysbrydoli ac yn annog mwy o bobl i ddarllen ac ysgrifennu barddoniaeth.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch