Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid – ydych chi’n paratoi ar gyfer mis Ebrill?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid – ydych chi’n paratoi ar gyfer mis Ebrill?
Busnes ac addysg

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid – ydych chi’n paratoi ar gyfer mis Ebrill?

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 25, 2024 1:22 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Workplace recycling is changing
RHANNU

Mae 6 Ebrill 2024 yn agosáu, sef dyddiad cyflwyno cyfraith sy’n nodi bod rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.

Cynnwys
  • Pa wastraff sydd angen ei wahanu
  • I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol

Bydd y gyfraith hon hefyd yn berthnasol i bob casglwr a phrosesydd gwastraff ac ailgylchu sy’n rheoli gwastraff o fath domestig o weithleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd rhaid i bob busnes yn Wrecsam ddidoli papur a chardfwrdd, gwydr, plastigau, cartonau a metelau, a bwyd wrth ailgylchu. Mae’r gyfraith newydd hon yn cael ei chyflwyno i wella’r ffordd y mae gwastraff yn cael ei gasglu a’i wahanu yng Nghymru o ran ansawdd a swm, a bydd angen i chi wneud yn siŵr bod eich sefydliad yn paratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod.”

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Bydd angen gwahanu’r deunyddiau canlynol i’w casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau
  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)

Bydd gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy’n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy’n mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol

Bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd amaethyddol
  • Lletygarwch a thwristiaeth – bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth – gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejis ceir
  • Addysg – prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw’r GIG ac ysbytai preifat.

Mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle (dolen gyswllt allanol).

Gallwch hefyd ddysgu mwy ar dudalen y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP Cymru.

Cariad at Goed – Digwyddiad Dydd y Cariadon Arbennig ym Mharc Acton – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchuworkplace recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Yer Ower Newyddion llyfrgell – Yer Ower Voices
Erthygl nesaf angen A wyddoch chi fod arnoch chi angen prawf adnabod â llun i bleidleisio?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English