Wrexham Library

Os ydych chi’n pendroni beth i’w wneud dros hanner tymor, edrychwch dim pellach na’ch llyfrgell leol!

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mae gan lyfrgell Wrecsam sesiynau crefft a gweithgareddau wedi’u trefnu am y rhan fwyaf o ddyddiau. Gan ddechrau gyda dydd Llun bydd Crefft Gwe Pryfed Arswydus, Dydd Mawrth fydd Diwrnod Gemau Bwrdd, Dydd Iau yw Lego Gwneud a Chymryd a dydd Sadwrn bydd Crefftau Tan Gwyllt.

Yn ogystal â’r amseroedd stori Cymraeg a Saesneg arferol ar ddydd Iau a dydd Gwener a Chlwb Lego ddydd Sadwrn. Am fwy o fanylion ac i gadw eich lle ffoniwch y llyfrgell ar 01978 292090.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI