Efallai bod trigolion lleol Trefor wedi sylwi ar beiriannau sydd wedi bod yn gweithio yn y coetir ger y ganolfan gymunedol. Mae llwybr newydd dymunol iawn yn cael ei greu yn Rhos y Coed a fydd yn uno’r Ganolfan Gymuned yn Nhrefor â’r Gamlas ger Pont Postles. Mae llawer o breswylwyr wedi bod yn gobeithio cael llwybr trwy’r coetir hwn ers sawl blwyddyn ac maen nhw bellach yn falch bod eu dymuniadau’n cael eu gwireddu.
Bydd y llwybr yn creu cyswllt uniongyrchol i’r gymuned at y Safle Treftadaeth y Byd trwy hen ardal ddiwydiannol lle mae natur wedi ymgartrefu a choetir wedi adfywio’n naturiol. Mae’r llwybr newydd wedi cael ei enwi yn “Llwybr Clincer” gan fod carreg glincer fawr ger y gamlas sy’n ein hatgoffa o orffennol diwydiannol. Mae nifer o gerrig glincer llai yn y coetir hefyd. Clincer yw cynnyrch gwastraff y broses fwyndoddi a ddefnyddiwyd yn y diwydiant haearn.
Mae’r garreg glincer fawr yn edrych fel awyrfaen enfawr neu byddai’n hawdd ei chamgymryd am wreiddyn coeden – mae’n siŵr bod llawer o bobl wedi cerdded heibio heb ddeall arwyddocâd ei bodolaeth mewn gwirionedd. Y bwriad yw clirio’r llystyfiant o amgylch y garreg glincer a darparu dehongliad a mainc i roi siawns i bobl graffu’n dawel arni wrth ochr y gamlas. I ddechrau bydd wyneb sylfaen yn cael ei osod ar rannau o’r llwybr a bydd hwnnw’n cael ei adael i sefydlogi am 12 mis cyn i’r haen uchaf gael ei gosod. Bydd gwaith plannu coed lliniarol yn digwydd hefyd gyda 3 coeden ifanc yn cael eu plannu am bob coeden aeddfed a fydd yn cael eu torri er mwyn sicrhau bod y llwybr yn mynd trwy’r coetir.
‘Ein Tirlun Darluniadwy’
Llwyddwyd i gael y llwybr newydd hwn o ganlyniad i brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ sy’n canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o’r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a’i reolaeth, wrth ail-ddehongli’r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd. Mae hanes y garreg glincer a sut y cyrhaeddodd ei safle presennol yn dal i fod yn ddirgelwch a byddai tîm y prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn ddiolchgar am unrhyw help i ganfod mwy am y garreg.
“Cytunodd Cyngor Cymuned Gwledig Llangollen a Chymdeithas Cymuned y Draphont Ddŵr eu bod yn gyffrous bod y llwybr hirddisgwyliedig hwn yn Rhos y Coed yn cael ei greu ac maent yn edrych ymlaen at allu cerdded trwy’r coetir a’i fwynhau.”