Mae Cyngor Wrecsam wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus yr wythnos hon i gael adborth ar gynlluniau i roi ysgol ar Gae Nine Acres.
Mae’r cynigion yn cynnwys adeiladu ysgol newydd i tua 315 o ddisgyblion, ynghyd â 45 o leoedd meithrin, ac mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn ddiweddar wedi dweud wrth rieni yr hoffai symud i’r safle.
Bydd yr ymgynghoriad – sydd ar agor tan 9 Ebrill – yn rhoi cyfle i drigolion, rhieni, grwpiau cymunedol ac eraill sydd â chysylltiad ddweud eu dweud.
MAE’R YMGYNGHORIAD HWN BELLACH AR AGOR! LLEISIWCH EICH BARN…
Sesiwn galw heibio
Yn ogystal â holiadur ar-lein, mae sesiwn galw heibio hefyd yn Neuadd Goffa Wrecsam ddydd Iau, 19 Mawrth, rhwng 3.30pm a 7pm, lle gall pobl ddysgu mwy a rhannu eu barn.
Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i helpu gwasanaeth addysg y Cyngor i ddeall sut mae pobl yn teimlo ynglŷn â’r cynigion, cyn ystyried cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.
Cae hyfforddi pêl-droed
Mae Cae Nine Acres, sydd oddi ar Ffordd Caer, Rhodfa San Steffan a Lôn Rhosnesni, yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel cae hyfforddi gan Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Fodd bynnag, mae’r clwb wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor ar gynlluniau i symud i gyfleuster hyfforddi newydd pwrpasol wrth hen ysgol uwchradd Groves oddi ar Rodfa Penymaes.
Dweud eich dweud
Mae’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam, yn dweud: “Dylai pob un sydd â diddordeb yn y cynigion yma gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a byddwn i’n annog pobl i ddod i’r sesiwn yn y Neuadd Goffa.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n deall barn pobl cyn i’r cynllun ddatblygu.”
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach ar agor! Lleisiwch eich barn…
RYDW I EISIAU DWEUD FY NWEUD