Y mis hwn rydym yn nodi 100 mlynedd ers i ferched gael yr hawl i fod yn Aelodau Seneddol.
21 Tachwedd, 1918 oedd y diwrnod hanesyddol pan basiwyd y Ddeddf ‘Cymhwyso Merched’ gan olygu na fyddai merched dros 21 bellach yn cael eu hatal rhag sefyll i fod yn ASau.
Cafwyd carreg filltir bwysig arall yn hawliau gwleidyddol merched yn gynharach yn 1918, y bleidlais i ferched – gan olygu bod hawl ganddynt i bleidleisio mewn etholiadau gwleidyddol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Cynnydd rhannol
Serch hynny, gellid dadlau fod y Ddeddf Cymhwyso Merched yn fwy blaengar na’r bleidlais, i ddechrau dim ond merched dros 30 allai bleidleisio.
Yn ogystal â hynny, roedd hefyd yn rhaid iddynt fod yn berchen ar eiddo, neu fod yn briod i ddyn a oedd yn berchen ar eiddo.
Felly, roedd yn gyfnod rhyfedd pan roedd modd pleidleisio i rai merched, ond nid oedd modd iddynt bleidleisio i’w hunain!
Ers cyflwyno’r ddeddf, mae bellach cyfanswm o 491 o ASau benywaidd wedi bod (o’i gymharu â’r ffigwr aruthrol o 4,503 o ASau gwrywaidd).
Ac os ydych yn pendroni sawl un ohonynt sydd wedi bod o Gymru? Yr ateb yw dim ond 19.
Gwleidyddiaeth heddiw
Heddiw, mae 209 o ferched yn Aelodau Seneddol – dim ond 32% o Dŷ’r Cyffredin, ond dyna’r nifer uchaf yn hanes Prydain hyd yma.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o bobl wedi cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, beth bynnag fo’u cefndir, gan ddysgu i bleidleisio am bwy bynnag y maent yn dymuno er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed.
Os ydych wedi darllen hyn ac wedi cael eich ysbrydoli i bleidleisio ond nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio’n barod, mae’n rhwydd cofrestru ar-lein rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU