Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 peth diddorol am Acton…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > 5 peth diddorol am Acton…
ArallPobl a lle

5 peth diddorol am Acton…

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 30, 2018 11:16 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Acton Park View Scenery Bench
RHANNU

Gan barhau gyda’n thema o bethau diddorol am leoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, nesaf ar y rhestr mae Acton 🙂

Cynnwys
  • 1. Cerdded ym Mharc Acton
  • 2. Rownd derfynol Cwpan FA Cymru
  • 3. Y Crogwr
  • 4. Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton
  • 5. Cŵn Acton

Mae Acton yn lle ac iddo lawer o hanes, a byddwch chi’n gwybod am rywfaint ohono, ond rydyn ni hefyd am geisio cynnwys pethau llai adnabyddus nad ydych chi efallai wedi’u clywed.

Dyma bum peth diddorol am Acton 🙂

1. Cerdded ym Mharc Acton

Iawn, iawn… rydyn ni newydd sôn am bethau ‘llai adnabyddus’ a phrin fod cerdded ym Mharc Acton yn cyfrif. Ond mae’n rhy dda i beidio â’i gynnwys! Ble mae rhywun yn dechrau?

Beth am ddechrau gyda’r llyn hyfryd sy’n nodwedd ganolog yn y parc, ac sy’n hynod boblogaidd ymysg physgotwyr brwd?

Green Spaces for Good
Environment
5 peth diddorol am Acton...
Green Flag
5 peth diddorol am Acton...

Neu beth am y coed hardd a’r amryw lwybrau y gallwch chi grwydro ar eu hyd?

O, neu’r amrywiaeth enfawr o flodau gwylltion a’r ardd Japaneaidd arbennig?

Ac mae hynny heb sôn am hanes anhygoel Parc Acton, gan gynnwys y teulu Cunliffe a’r enwog Farnwr Jeffreys, y Crogwr.

Mae Parc Acton yn lle gwych 🙂

Os ydych chi dal ddim yn ein credu ni, gwyliwch y fideo byr rydyn ni wedi’i greu.

2. Rownd derfynol Cwpan FA Cymru

Oeddech chi’n gwybod, yn ôl ym 1878 – ar 30 Mawrth, a bod yn fanwl gywir – mai Acton oedd cartref rownd derfynol gyntaf erioed Cwpan FA Cymru?

Gêm oedd hi rhwng Wrecsam a Derwyddon Rhiwabon ac fe enillodd Wrecsam o 1-0 ar ôl gôl gan James Davies ym munud olaf y gêm… am ddrama!

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Cynhaliwyd y rownd derfynol ym Mharc Acton ar ôl i Syr Robert Alfred Cunliffe gyfrannu’r cae.

Daeth enwau 19 o glybiau ymlaen ar gyfer y gystadleuaeth gyntaf, ond dim ond 17 wnaeth lwyddo i gael tîm i chwarae.

Rhywbeth arall i’w ychwanegu at y rhestr o droeon cyntaf yn y byd pêl-droed sy’n gysylltiedig â Wrecsam.

3. Y Crogwr

Mae tipyn go lew o gymeriadau anfad wedi bod yn Wrecsam, ond efallai nad oes unrhyw un mor ddrwg-enwog â’r Barnwr Jeffreys, y Crogwr!

Roedd George Jeffreys yn byw ym Mhlas Acton yn yr 17eg ganrif. Roedd yn byw bywyd llawn helyntion ac fe wnaeth nifer o elynion yn ystod ei oes…

Mae’n enwog am hoffi diod neu ddau, ac ym 1680 fe ddaeth yn Brif Ustus Caer, er iddo gael ei alw “y barnwr gwaethaf erioed i ddwyn gwarth ar y fainc.”

Fe sicrhaodd Jeffreys wedyn y byddai ei enw yn y llyfrau hanes drwy Frawdlysoedd Gwaedlyd 1685. Yno, fe ddienyddwyd bron i 300 o bobl ac fe anfonwyd llawer mwy ar longau i Ynysoedd y Caribî fel caethweision.

Ym mhen tipyn, rhoddwyd stop ar ei ddedfrydau ac ym 1688, fe gipiwyd ei awdurdod oddi wrtho.

Nid yw’n syndod iddo gael ei ddal, wrth iddo geisio dianc, mewn tafarn gyda llond ei bocedi o 35,000 gini a llwyth o lestri arian. Bu farw wedyn yn Nhŵr Gwyn Llundain ym 1689.

Am ychydig mwy o wybodaeth am y Barnwr Jeffreys a hanes Parc Acton, cymerwch gip ar y blog hwn.

4. Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton

Mae Acton yn gartref i ganolfan adnoddau cymunedol wych. Mae’n lle croesawgar iawn ac mae rhywbeth i bawb o bob oed.

Cerddoriaeth, chwaraeon, ffitrwydd, addysg, hamdden, y celfyddydau a hyfforddiant – dim ond rhai o’r pethau sydd i’w cael yn y ganolfan.

Felly, os oes gennych chi rywfaint o amser rhydd ac os ydych chi’n meddwl am fagu sgiliau a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, mae croeso i chi ddod draw i gymryd rhan.

Ychydig fisoedd yn ôl, fe aethom ni i’r ganolfan i siarad gyda’r Purple Orchids (grŵp i rai dros 50 oed) wrth iddyn nhw ddathlu eu pen-blwydd cyntaf. Cymerwch gipolwg ar ein fideo o’r diwrnod 🙂

5. Cŵn Acton

Cŵn Acton yw un o’r ffigyrau sy’n cael eu cysylltu amlaf â Wrecsam 🙂

Roedd y teulu Cunliffe yn byw ym Mhlas Acton ac roeddent wrth eu boddau â milgwn… cymaint felly fel iddyn nhw ddewis y milgi fel arwyddlun y teulu ym 1759.

Ym 1820, codwyd porth newydd ym Mhlas Acton gan Syr Foster, gyda phedwar cerflun pren o gŵn ar ei ben.

Fe gafodd y porth yr enw ‘Y Pedwar Ci’ ac roedd yn strwythur annwyl iawn i bobl Wrecsam.

Daeth y cŵn i symbylu Wrecsam ac mae un o’r cŵn gwreiddiol (ac iddo’r enw anwes ‘Ci Acton’) i’w weld yn Amgueddfa Wrecsam 🙂

Cafodd y porth ei atgyweirio ym 1982 a chan fod y cŵn gwreiddiol mewn tipyn o stad, gwnaed copïau yn eu lle.

Felly mae pedwar ci yn dal i warchod y fynedfa i ystâd Parc Acton heddiw 🙂

Os gwnaethoch chi fwynhau’r blog yma, cadwch olwg gan y bydd gennym ni fwy o leoedd o amgylch Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros yr wythnosau nesaf.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham council news, 100 year anniversary of women MPs Nodi 100 mlynedd ers i ferched y DU allu bod yn Aelodau Seneddol
Erthygl nesaf Llongyfarchiadau i’r clwb bowls ar ennill gwobr anabledd Llongyfarchiadau i’r clwb bowls ar ennill gwobr anabledd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English