Heddiw yw Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd!
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn helpu i ddal cymunedau yng Nghymru gyda’i gilydd. Ond beth mae’n ei olygu, a phwy mae’n ei helpu?
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bodoli i ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio ar wella lles teuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Er bod rôl gwasanaethau cymdeithasol yn gymhleth ac amrywiol, mae’n seiliedig ar ddarparu gofal a chymorth hanfodol. Maen nhw’n darparu llais i deuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr, gan greu amgylchedd diogel.
Rydan ni wedi bod yn gofyn i rai o’n staff ffantastig am ei gyrfaoedd yn waith cymdeithasol:
Charlie – Gweithiwr Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant)
Y rheswm pam y dewisais wneud gwaith cymdeithasol oedd oherwydd fy mod yn mwynhau gweithio gydag oedolion a phobl ifanc ddiamddiffyn a’u helpu i gyflawni eu nodau, yn ogystal â rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt.
Mae gorffen yn y brifysgol a dechrau swydd newydd fel gweithiwr cymdeithasol yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y pandemig wedi bod yn her na allwn fod wedi’i rhagweld na pharatoi ar ei chyfer.
Rydym wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o estyn allan a chyrraedd pobl ifanc ac rydym wedi gorfod meddwl am ddulliau newydd o weithredu, sydd wedi bod yn ddiddorol.
Rwy’n teimlo bod gennyf lawer mwy i’w ddysgu i ddatblygu fy ymarfer ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i ddechrau fy rôl newydd gyda chefnogaeth fy ffrindiau o’r brifysgol sydd hefyd wedi dechrau yn yr un tîm oherwydd eu bod yn deall pwysau’r swydd o ddydd i ddydd ac yn rhoi cefnogaeth emosiynol yr wyf yn ddiolchgar iawn amdani.
Abbie – Gweithiwr Cymdeithasol (Tîm Asesu ac Ymyrraeth)
Pan fydd rhywun yn gofyn i mi pam y dewisais fod yn weithiwr cymdeithasol, rwy’n dweud fy mod wastad wedi bod â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol ac fy mod yn angerddol am hyrwyddo hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.
Yn fy mlwyddyn gyntaf o ymarfer rwyf wedi cael cyfle i weithio gyda gwahanol deuluoedd ledled Wrecsam sydd â’u profiadau a’u hanghenion amrywiol eu hunain. Mae pob diwrnod yn wahanol a hyd yma mae bod yn weithiwr cymdeithasol wedi bod yn heriol ond eto yn llawn boddhad.
Mae cael cyfle i weld y gwahaniaeth positif y mae gwaith cymdeithasol yn gallu ei wneud i blant a’u teuluoedd wedi rhoi boddhad mawr i mi ac un peth yr wyf bob amser yn ymdrechu i’w sicrhau yw bod llais, teimladau a phrofiadau plant yn flaenllaw yn fy ymarfer.
Faye Jamieson, Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Mae’r proffesiwn gwaith cymdeithasol yn rhannu nifer o’m gwerthoedd a chredoau personol. I mi, roedd yn agoriad llygad i ddarganfod proffesiwn a oedd yn cynnal egwyddorion craidd cydraddoldeb, hyrwyddo hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol, urddas a gwerth pobl eraill, a chydnabod pwysigrwydd perthnasoedd dynol. Sut fedrwn i beidio bod yn weithiwr cymdeithasol?!
Yn fy rôl ddyddiol, mae’n anrhydedd fawr gweithio ochr yn ochr ag unigolion yn Wrecsam na allant fynegi na chynnal yr egwyddorion uchod dros eu hunain o bosibl.
At ei gilydd, mae ein tîm yn gweithio gydag oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu heiriolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi unigolion i fyw bywyd heb gamdriniaeth.
Rôl mewn proffesiwn sy’n aml yn heriol, ond hefyd yn hynod o werthfawr a boddhaus.
Am mwy o wybodaeth am gwaith cymdeithasol:
Cymwysterau gwaith cymdeithasol
CANFOD Y FFEITHIAU