Mae’n bosib fod rhai ohonoch wedi gweld ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol o Awst 11 yn ymwneud â chael bagiau cadi am ddim….maent yn sicr wedi derbyn llawer o ymateb.
Rydym wedi bod yn rhoi’r bagiau am ddim ers rhai misoedd, ond mae’n debyg fod yna nifer fawr o bobl yn Wrecsam o hyd nad ydynt yn gwybod am hyn.
Felly rydym am egluro sut y gallwch gael y bagiau am ddim, ond hefyd eich atgoffa sut i archebu cadi bwyd newydd a chael unrhyw fagiau/bocsys ailgylchu newydd sydd eu hangen arnoch yn lle’r hen rai.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Clymu bag gwag i’r cadi
Y ffordd hawsaf o gael bagiau cadi am ddim gennym ni yw drwy glymu bag gwag i handlen eich cadi bwyd ar eich diwrnod casglu, fel y dangosir yn y llun.
Rhedeg allan o fagiau cadi? Clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi. Mae mor syml â hynny! #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/lho69IZje0
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) August 11, 2019
Mae ein holl wagenni ailgylchu yn cludo’r bagiau cadi am ddim, felly os ydych yn clymu bag gwag i handlen eich cadi ni fyddwch yn cael eich anghofio. Rydym wedi atgoffa ein criwiau ailgylchu i sicrhau eu bod yn eu cludo ac rydym yn ymddiheuro i unrhyw un yr ydym wedi eu hanghofio yn y gorffennol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Drwy glymu bag gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casglu rydych yn gadael i’n criwiau ailgylchu wybod fod eich cyflenwad o fagiau cadi yn isel. Mae’n bwysig iawn gwneud hynny gan y byddant wrth gasglu eich gwastraff bwyd yn gweld y bag gwag ac yn gadael rholyn newydd i chi.
“Tra bod rhai pobl yn manteisio ar hyn, mae’n ymddangos fod yna nifer ohonom yn Wrecsam o hyd nad ydym yn gwybod ein bod yn rhoi bagiau cadi am ddim, ond mae’n rhan o’n hymrwymiad i annog pobl i ailgylchu gwastraff bwyd.”
Ein canolfannau ailgylchu
Gallwch hefyd gasglu bagiau cadi o unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam. Siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a gofyn iddynt am rolyn arall 🙂
Archebu cadi newydd
Gallwch wneud cais am gadi bwyd newydd ar ein gwefan, lle gallwch hefyd archebu bocsys ailgylchu newydd. Neu fe allwch ffonio’r Ganolfan Gyswllt i gael y rhain ar 01978 298989.
Os oes angen bag ailgylchu glas newydd arnoch gofynnwch i’ch criw ailgylchu ar eich diwrnod casglu nesaf. Gallwch hefyd gasglu un o nifer o siopau yn Wrecsam. Dilynwch y ddolen yma i weld y rhestr lawn o siopau sydd â’r bagiau.
Diolch fel bob amser am ailgylchu ac am wneud eich rhan dros Wrecsam 🙂
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION