Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn Briff Covid-19 05.02.21 – Cynnydd sicr yn cael ei ddangos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Nodyn Briff Covid-19 05.02.21 – Cynnydd sicr yn cael ei ddangos
Y cyngor

Nodyn Briff Covid-19 05.02.21 – Cynnydd sicr yn cael ei ddangos

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 8, 2021 5:11 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Covid-19
RHANNU

Mae pethau’n gwella ond mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus

Y neges allweddol i bawb yr wythnos hon yw, rydym yn dangos cynnydd sicr gyda dod â nifer yr achosion Covid-19 i lawr yn Wrecsam, ond nid yw’r perygl wedi diflannu eto.

Cynnwys
  • Mae pethau’n gwella ond mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus
  • Amrywiolion Covid-19
  • Vaccination Update
  • Os oes gennych symptomau…

Ni yw’r gwaethaf yng Nghymru, ac mae angen i ni barhau â’r gwaith da i gadw’r niferoedd i lawr.

Mae’n bwysicach nag erioed nad ydym yn cymysgu gydag aelwydydd eraill, cadw pellter o ddau fetr rhwng eraill, golchi ein dwylo yn rheolaidd a gweithio o gartref os medrwn.  Gwisgwch orchudd wyneb pan fo’n ofynnol, neu lle nad oes modd i chi gynnal cadw pellter cymdeithasol.

Os ydych chi, neu aelod o’ch teulu yn datblygu symptomau megis peswch, gwres neu newid i’ch synnwyr blasu neu arogli, mae’n rhaid i chi hunan-ynysu yn syth ac archebu prawf am ddim ar Cael prawf coronafeirws (COVID-19)

Mae pobl yn parhau i fod yn sâl, ac yn anffodus, yn marw gyda Covid-19, felly beth am i ni barhau gyda’r gwaith da o gadw Wrecsam yn ddiogel.

Amrywiolion Covid-19

Bu llawer o newyddion yn ddiweddar am amrywiolyn ‘De Affrig’ Covid-19, ac er bod pryder, nid oes unrhyw achosion wedi’u nodi yn Wrecsam ar hyn o bryd. Mae amrywiolyn y DU yn cyfrif am 90% a rhagor o achosion newydd yng Ngogledd Cymru.

Cofiwch bod yr amrywiolion a nodwyd eisoes llawer mwy trosglwyddadwy, felly dylai dilyn y canllawiau fod yn flaenoriaeth i ni gyd.

Vaccination Update

Mae cyflwyniad y brechlyn yn parhau, a dangoswyd cynnydd gyda mwy na 500,000 o frechiadau wedi eu rhoi yng Nghymru a mwy na 100,000 yng Ngogledd Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dechrau cyhoeddi data ar nifer y brechiadau yng Ngogledd Cymru, fesul cyngor, ar eu gwefan cyhoeddus. Gweler cynnydd cyflwyniad y brechlyn yma: Ystadegau brechu lleol ar gyfer Gogledd Cymru

Cofiwch, os ydych chi eisoes wedi cael eich brechlyn, mae angen i chi barhau i ddilyn y rheolau, aros gartref, peidio â chymysgu gydag aelwydydd eraill, cymryd sylw o hylendid eich dwylo, ac os oes angen i chi fynd allan am reswm hanfodol, cadwch bellter o 2 fetr rhyngoch chi ac eraill.

80 a throsodd – mae’r bwrdd iechyd wedi rhoi cais i unrhyw un dros 80 gysylltu â nhw os nad ydynt wedi derbyn eu brechlyn eto.  Os ydych chi, neu aelod o’r teulu, gymydog neu ffrind yn y grŵp oedran hwn, a heb dderbyn y brechlyn, neu heb apwyntiad, ffoniwch ar 03000 840004.

Defnyddiwch y rhif hwn os ydych chi dros 80 yn unig. Mae trefniadau ar gyfer brechu grwpiau oedran eraill yn parhau i fod yr un fath.

Os ydych chi’n 80 oed neu’n hŷn, neu’n adnabod rhywun sy’n 80 oed a hŷn ac sydd heb gael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 neu apwyntiad i’w gael, ffoniwch y ganolfan trefnu brechlynnau a byddwn yn trefnu apwyntiad 🔗 https://t.co/R0YIeq7mMx

📞03000 840004 pic.twitter.com/1TR2Q8FpEt

— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) February 2, 2021

Os oes gennych symptomau…

Os oes gennych symptomau’r coronafeirws, sicrhewch eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.

Efallai mai hon fydd eich swydd bwysicaf erioed.

Darllenwch ragor ar wefan Llywodraeth Cymru.

Persistent cough, high temperature or loss of taste or smell? You may have #coronavirus.

Please self-isolate immediately and book a test if you have any symptoms.https://t.co/WYmmH7RQJr#KeepWalessafe #TestTraceProtect pic.twitter.com/a3LKlRilOr

— Welsh Government Health and Social Care (@WGHealthandCare) January 29, 2021

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Y diweddaraf ar frechlynnau (gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Lefel Rhybudd 4: cwestiynau cyffredin
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Great news as Wrexham Family Information Service achieves Quality Award Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd
Erthygl nesaf Free PPE packs available to Taxi and private hire drivers Pecynnau Cyfarpar Diogelu Personol ar gael i yrwyr Tacsi a cherbydau hurio preifat

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English