Great news as Wrexham Family Information Service achieves Quality Award

Mae hi wedi bod yn gychwyn gwych i 2021 i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (GGDW) gan iddynt ganfod yn ddiweddar eu bod wedi ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.

Cynhaliwyd dau ddiwrnod asesu ar-lein yn Nhachwedd a Rhagfyr y llynedd, ble bu i’r asesydd gysgodi staff, siarad gyda theuluoedd sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth a sefydliadau a gwasanaethau partner.

Bu i’r GGDW hefyd gyflwyno portffolio cynhwysfawr o dystiolaeth fel rhan o’r broses, ac roedd y staff wrth eu bodd o gael y newyddion da yn Ionawr.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

“Angerddol iawn dros eu gwaith”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae hon yn wobr hynod o haeddiannol am yr holl waith gwych mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn ei wneud ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r staff yn angerddol iawn dros eu gwaith a wirioneddol yn poeni am y gwasanaethau a ddarparant, felly hoffwn ddweud ‘da iawn’ wrth bob un ohonynt. Gall pawb sy’n rhan o GGDW fod yn hynod o falch o’u cyflawniad.”

Roedd agwedd gynhwysol yn amlwg

Roedd adroddiad yr asesydd yn nodi’r sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd y staff yn benodol. Mae darn o’r adroddiad yn nodi: ‘Roedd agwedd gynhwysol, yn seiliedig ar gryfderau yn amlwg yn y ffordd roedd y staff yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth ac yn cyfathrebu’n barchus, gwrando’n ofalus arnynt i ganfod a chadarnhau eu sefyllfa a’u hanghenion presennol, a defnyddio agwedd yn peidio â barnu.

‘Rhoddwyd gwybodaeth heb ragfarn, ac roedd defnyddwyr gwasanaeth yn rhan fawr o’r broses o wneud penderfyniadau wrth edrych ar ddewisiadau ac adolygu’r camau nesaf. Roedd dealltwriaeth y tîm o’r dewisiadau atgyfeirio yn helaeth.’

Ynglŷn â GGDW

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol i deuluoedd sydd â phlant 0-19 oed yn byw ym mwrdeistref sirol Wrecsam, yn ogystal â darpar rieni, i gefnogi lles a bywyd teuluol. Ariennir y gwasanaeth yn rhannol gan Deuluoedd yn Gyntaf.

Sylwadau gan rieni

Dywedodd Rhiant 1: “Gwych. Maent yn gwybod â phwy i gysylltu. Maent yn cymryd camau dilynol a ffonio a tecstio. Rydym wedi cael grantiau i helpu gyda’r wisg ysgol. Bu i’r gwasanaeth ein stopio rhag poeni.”

Dywedodd Rhiant 2: “Cefais gefnogaeth ar gyfer gofal hanner tymor pan rwyf yn y gwaith. Gall fy mechgyn chwarae nawr trwy Ffrindiau Teulu. Maent yn edrych am Therapydd Galwedigaethol i ni. Mae’r gwasanaeth wedi newid ein bywydau.”

Cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam trwy ffonio 01978 292094, neu anfon e-bost at fis@wrexham.gov.uk

Maent hefyd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol (gweler y dolenni isod):

Facebook GGD

Twitter GGDC

😷 Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU