O yfory (dydd Sadwrn, 13 Mawrth) ymlaen, ni fydd yn ofynnol i bobl yng Nghymru aros gartref mwyach.
Yn hytrach, bydd gofyn iddynt ‘aros yn lleol.’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r newid heddiw fel rhan o’r broses raddol o lacio’r cyfyngiadau ar ôl bron i dri mis o gyfnod clo.
Yn yr un modd ag arfer, bydd angen defnyddio synnwyr cyffredin… felly pwyll pia hi, arhoswch yn lleol a chadwch at y rheolau.
Rydym i gyd yn gwybod fod y feirws hwn yn galed ac yn ystyfnig, a bod pethau’n gallu gwaethygu mewn dim.
Gadewch i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w drechu.
Yma yng Nghymru rydym yn symud i #ArosYnLleol ac yn dechrau cymryd camau ofalus i ddod allan o'r cyfnod clo.
Dyma'r dyddiadau allweddol ???? pic.twitter.com/49rEoBE2kD
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) March 12, 2021
Newidiadau Eraill
Mae’r newidiadau eraill a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn cynnwys:
Dydd Sadwrn, 13 Mawrth
• Gall pedwar o bobl o ddwy aelwyd gyfarfod y tu allan i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi.
• Gall cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrsiau golff, ailagor.
• Gall ymwelwyr unigol dynodedig ymweld â chartrefi gofal.
Dydd Llun, 15 Mawrth
• Gall siopau gwallt ailagor ar gyfer apwyntiadau.
Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd pob plentyn ysgol gynradd yn mynd yn ôl i’r ysgol, yn ogystal â disgyblion ym mlwyddyn 11 ac 13 yn yr ysgol uwchradd, a rhai disgyblion ym mlwyddyn 10 ac 12 sy’n sefyll arholiadau.
Efallai y bydd ysgolion yn gallu cynnig sesiynau galw heibio i flynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg. Os felly, bydd eich ysgol yn cysylltu gyda’r manylion.
Dydd Llun, 22 Mawrth
• Bydd rhai siopau dianghenraid yn gallu ailagor.
• Gall canolfannau garddio ailagor.
Dydd Sul, 27 Mawrth
• Bydd llety twristiaeth hunangynhwysol yn gallu ailagor os bydd lefelau’r coronaferiws yn parhau’n isel.
Dydd Llun, 12 Ebrill
• Bydd pob siop yn gallu ailagor (ar yr un dyddiad â siopau yn Lloegr).
• Bydd pob disgybl (cynradd ac uwchradd) yn ôl yn yr ysgol.
Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae Wrecsam ar y cyfan bellach yn bedwerydd yng Nghymru, gyda 66 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth ar sail treigl saith diwrnod. Yn dilyn gostyngiad sylweddol ddechrau mis Chwefror, mae’r cwymp yn nifer yr achosion wedi arafu – sy’n dangos pa mor ystyfnig yw’r feirws hwn.
Mae’r rhan fwyaf o Wrecsam wedi parhau i wella neu wedi gweld amrywiadau bychain yn y niferoedd.
Mae un ardal o Wrecsam wedi gwaethygu’r wythnos hon:
• Acton a Maesydre – 158 fesul 100,000 (o’i gymharu â llai na 59 yr wythnos ddiwethaf).
Pedair ardal yn unig sydd â mwy na 100 o achosion fesul 100,000:
• Acton a Maesydre – 158 fesul 100,000 (o’i gymharu â llai na 59 yr wythnos ddiwethaf).
• Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 152 fesul 100,000 (yr un fath â’r wythnos ddiwethaf)
• Hermitage a Whitegate – 114 fesul 100,000 (i lawr o 149 yr wythnos ddiwethaf).
• Gogledd y Dref, Prifysgol a Rhosddu – 101 fesul 100,000 (yr un fath â’r wythnos ddiwethaf).
Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.
Mae’r feirws yn parhau i ledaenu’n bennaf mewn aelwydydd rhwng aelodau’r teulu,.
Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu
Ar ddechrau’r wythnos, roedd 84% o bobl yng Ngogledd Cymru rhwng 65 a 69 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn – yn ogystal â thraean o’r bobl rhwng 16 a 65 oed sydd â chyflyrau iechyd blaenorol.
Mewn ychydig ddyddiau, bydd pobl rhwng 65 a 69 oed nad ydynt wedi derbyn apwyntiad hyd yn hyn yn cael eu gwahodd i ffonio’r llinell archebu.
Ar y cyfan, mae 270,000 o ddosau wedi’u gweinyddu yng Ngogledd Cymru, gyda bron i 42,000 yn Wrecsam.
Fe wnaeth cyflenwadau’r brechlyn ostwng yn ddiweddar yn sgil lefelau cynhyrchu, ond maent wedi cynyddu eto’r wythnos hyn.
Apwyntiadau brechu – gair i gall
Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i ddarparu’r rhaglen yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch ei wneud i helpu.
• Peidiwch â ffonio’r GIG na’r meddyg teulu i ofyn am apwyntiad ar gyfer y brechlyn (oni bai eich bod wedi cael cyngor i wneud hynny). Byddan nhw’n cysylltu pan ddaw eich tro chi.
• Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffonau os nad ydym yn adnabod y rhif. Fodd bynnag, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y GIG yn ceisio eich ffonio os bydd yna apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
• Os byddwch yn derbyn gwahoddiad ar gyfer apwyntiad ond ddim eisiau derbyn y brechlyn, yna dylech adael i’r GIG wybod fel y gallant ei gynnig i rywun arall.
• Pan fyddwch yn mynd i apwyntiad, cadwch bellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â masg wyneb. Dylech hefyd ddod â llun adnabod.
• Byddwch yn derbyn gwahoddiad i dderbyn eich ail ddos o fewn 12 wythnos i’r cyntaf. Pan fyddwch yn derbyn eich ail lythyr, archebwch eich ail apwyntiad cyn gynted â phosibl
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Cofiwch …. mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim
Ni fydd unrhyw un byth yn gofyn i chi ‘gofrestru’ na thalu i gael eich brechu ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrinair.
Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.
Newidiadau i’r system profi ac olrhain
A ydych wedi eich nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi derbyn prawf positif am y coronaferiws?
Byddwch yn derbyn cyngor gan swyddog olrhain cyswllt o’r gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu i archebu prawf … hyd yn oed os nad ydych wedi cael symptomau.
Dyma ganllaw defnyddiol i’r pethau y bydd arnoch chi angen ei wybod…
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os bydd gennych symptomau…
Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am y cyfyngiadau presennol yng Nghymru
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd