Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adolygiadau dilynol cadarnhaol i ddwy ysgol yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Adolygiadau dilynol cadarnhaol i ddwy ysgol yn Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Adolygiadau dilynol cadarnhaol i ddwy ysgol yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 11, 2021 11:56 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Classroom
RHANNU

Mae dwy ysgol uwchradd yn Wrecsam wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

Roedd Ysgol Uwchradd Darland yn Yr Orsedd ac Ysgol y Maelor yn Llannerch Banna wedi derbyn adolygiadau dilynol yn ddiweddar yn dilyn arolwg yn ôl yn 2019.

Mae Estyn o’r farn fod y ddwy ysgol wedi mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed, ac nad oes angen adolygiad pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:

“Mae hyn yn newyddion cadarnhaol ac yn adlewyrchu’n dda ar y ddarpariaeth addysg o ansawdd a ddarperir gan y ddwy ysgol yma i’w disgyblion.

“Gyda’r holl heriau mae’r ysgolion wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig, mae’n galonogol gwybod bod Estyn wedi cydnabod ymdrechion y staff yn y ddwy ysgol.”

Dywedodd Simon Ellis, Pennaeth Ysgol Maelor:

“Rydym yn falch iawn fod gwaith caled ac ymroddiad ein staff addysgu wedi’i gydnabod, ac rydym yn datblygu enw da yn gyflym ar gyfer ein dulliau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.”

Ychwanegodd Joanne Lee, Pennaeth yn Darland:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r adroddiad diweddar hwn. Mae Ysgol Uwchradd Darland wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi’i gydnabod gan Estyn.

“Hoffwn longyfarch y staff a llywodraethwyr am eu gwaith caled a’r ethos tîm.

“Hefyd, hoffwn ddiolch i rieni am eu cefnogaeth. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld adegau anarferol, ac mae’r ffaith ein bod wedi gwneud cymaint o gynnydd yn ystod y cyfnod hwn yn dyst i ymroddiad ac egni pawb dan sylw.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Amdani i gael Cymru i rif 1...BYDD WYCH. AILGYLCHA. Amdani i gael Cymru i rif 1…BYDD WYCH. AILGYLCHA.
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – ‘arhoswch yn lleol’ o fory (13 Mawrth) ymlaen os gwelwch yn dda

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English