Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – ‘arhoswch yn lleol’ o fory (13 Mawrth) ymlaen os gwelwch yn dda
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – ‘arhoswch yn lleol’ o fory (13 Mawrth) ymlaen os gwelwch yn dda
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – ‘arhoswch yn lleol’ o fory (13 Mawrth) ymlaen os gwelwch yn dda

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/19 at 10:38 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid-19
RHANNU

O yfory (dydd Sadwrn, 13 Mawrth) ymlaen, ni fydd yn ofynnol i bobl yng Nghymru aros gartref mwyach.

Cynnwys
Newidiadau EraillLefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chiY wybodaeth ddiweddaraf ar frechuApwyntiadau brechu – gair i gallCofiwch …. mae’r brechlyn yn rhad ac am ddimNewidiadau i’r system profi ac olrhainOs bydd gennych symptomau…Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Yn hytrach, bydd gofyn iddynt ‘aros yn lleol.’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r newid heddiw fel rhan o’r broses raddol o lacio’r cyfyngiadau ar ôl bron i dri mis o gyfnod clo.

Yn yr un modd ag arfer, bydd angen defnyddio synnwyr cyffredin… felly pwyll pia hi, arhoswch yn lleol a chadwch at y rheolau.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rydym i gyd yn gwybod fod y feirws hwn yn galed ac yn ystyfnig, a bod pethau’n gallu gwaethygu mewn dim.

Gadewch i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w drechu.

Yma yng Nghymru rydym yn symud i #ArosYnLleol ac yn dechrau cymryd camau ofalus i ddod allan o'r cyfnod clo.

Dyma'r dyddiadau allweddol ???? pic.twitter.com/49rEoBE2kD

— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) March 12, 2021

Newidiadau Eraill

Mae’r newidiadau eraill a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn cynnwys:

Dydd Sadwrn, 13 Mawrth

• Gall pedwar o bobl o ddwy aelwyd gyfarfod y tu allan i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi.
• Gall cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrsiau golff, ailagor.
• Gall ymwelwyr unigol dynodedig ymweld â chartrefi gofal.

Dydd Llun, 15 Mawrth

• Gall siopau gwallt ailagor ar gyfer apwyntiadau.

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd pob plentyn ysgol gynradd yn mynd yn ôl i’r ysgol, yn ogystal â disgyblion ym mlwyddyn 11 ac 13 yn yr ysgol uwchradd, a rhai disgyblion ym mlwyddyn 10 ac 12 sy’n sefyll arholiadau.

Efallai y bydd ysgolion yn gallu cynnig sesiynau galw heibio i flynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg. Os felly, bydd eich ysgol yn cysylltu gyda’r manylion.

Dydd Llun, 22 Mawrth

• Bydd rhai siopau dianghenraid yn gallu ailagor.
• Gall canolfannau garddio ailagor.

Dydd Sul, 27 Mawrth

• Bydd llety twristiaeth hunangynhwysol yn gallu ailagor os bydd lefelau’r coronaferiws yn parhau’n isel.

Dydd Llun, 12 Ebrill

• Bydd pob siop yn gallu ailagor (ar yr un dyddiad â siopau yn Lloegr).
• Bydd pob disgybl (cynradd ac uwchradd) yn ôl yn yr ysgol.

Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi

Mae Wrecsam ar y cyfan bellach yn bedwerydd yng Nghymru, gyda 66 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth ar sail treigl saith diwrnod. Yn dilyn gostyngiad sylweddol ddechrau mis Chwefror, mae’r cwymp yn nifer yr achosion wedi arafu – sy’n dangos pa mor ystyfnig yw’r feirws hwn.

Mae’r rhan fwyaf o Wrecsam wedi parhau i wella neu wedi gweld amrywiadau bychain yn y niferoedd.

Mae un ardal o Wrecsam wedi gwaethygu’r wythnos hon:

• Acton a Maesydre – 158 fesul 100,000 (o’i gymharu â llai na 59 yr wythnos ddiwethaf).

Pedair ardal yn unig sydd â mwy na 100 o achosion fesul 100,000:

• Acton a Maesydre – 158 fesul 100,000 (o’i gymharu â llai na 59 yr wythnos ddiwethaf).
• Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 152 fesul 100,000 (yr un fath â’r wythnos ddiwethaf)
• Hermitage a Whitegate – 114 fesul 100,000 (i lawr o 149 yr wythnos ddiwethaf).
• Gogledd y Dref, Prifysgol a Rhosddu – 101 fesul 100,000 (yr un fath â’r wythnos ddiwethaf).

Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.

Mae’r feirws yn parhau i ledaenu’n bennaf mewn aelwydydd rhwng aelodau’r teulu,.

Nodyn briffio Covid-19 – ‘arhoswch yn lleol’ o fory (13 Mawrth) ymlaen os gwelwch yn dda

Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu

Ar ddechrau’r wythnos, roedd 84% o bobl yng Ngogledd Cymru rhwng 65 a 69 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn – yn ogystal â thraean o’r bobl rhwng 16 a 65 oed sydd â chyflyrau iechyd blaenorol.

Mewn ychydig ddyddiau, bydd pobl rhwng 65 a 69 oed nad ydynt wedi derbyn apwyntiad hyd yn hyn yn cael eu gwahodd i ffonio’r llinell archebu.

Ar y cyfan, mae 270,000 o ddosau wedi’u gweinyddu yng Ngogledd Cymru, gyda bron i 42,000 yn Wrecsam.

Fe wnaeth cyflenwadau’r brechlyn ostwng yn ddiweddar yn sgil lefelau cynhyrchu, ond maent wedi cynyddu eto’r wythnos hyn.

Apwyntiadau brechu – gair i gall

Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i ddarparu’r rhaglen yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch ei wneud i helpu.

• Peidiwch â ffonio’r GIG na’r meddyg teulu i ofyn am apwyntiad ar gyfer y brechlyn (oni bai eich bod wedi cael cyngor i wneud hynny). Byddan nhw’n cysylltu pan ddaw eich tro chi.
• Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffonau os nad ydym yn adnabod y rhif. Fodd bynnag, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y GIG yn ceisio eich ffonio os bydd yna apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
• Os byddwch yn derbyn gwahoddiad ar gyfer apwyntiad ond ddim eisiau derbyn y brechlyn, yna dylech adael i’r GIG wybod fel y gallant ei gynnig i rywun arall.
• Pan fyddwch yn mynd i apwyntiad, cadwch bellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â masg wyneb. Dylech hefyd ddod â llun adnabod.
• Byddwch yn derbyn gwahoddiad i dderbyn eich ail ddos o fewn 12 wythnos i’r cyntaf. Pan fyddwch yn derbyn eich ail lythyr, archebwch eich ail apwyntiad cyn gynted â phosibl

Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Cofiwch …. mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim

Ni fydd unrhyw un byth yn gofyn i chi ‘gofrestru’ na thalu i gael eich brechu ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrinair.

Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.

Newidiadau i’r system profi ac olrhain

A ydych wedi eich nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi derbyn prawf positif am y coronaferiws?

Byddwch yn derbyn cyngor gan swyddog olrhain cyswllt o’r gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu i archebu prawf … hyd yn oed os nad ydych wedi cael symptomau.

Dyma ganllaw defnyddiol i’r pethau y bydd arnoch chi angen ei wybod…

Nodyn briffio Covid-19 – ‘arhoswch yn lleol’ o fory (13 Mawrth) ymlaen os gwelwch yn dda

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os bydd gennych symptomau…

Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.

Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am y cyfyngiadau presennol yng Nghymru 
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd

Rhannu
Erthygl flaenorol Classroom Adolygiadau dilynol cadarnhaol i ddwy ysgol yn Wrecsam
Erthygl nesaf Cynllunio ar gyfer y dyfodol Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 3, 2025
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English