Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – ‘Arhoswch yng Nghymru’ o yfory (27 Mawrth)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – ‘Arhoswch yng Nghymru’ o yfory (27 Mawrth)
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – ‘Arhoswch yng Nghymru’ o yfory (27 Mawrth)

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 1, 2021 11:35 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Covid-19
RHANNU

O yfory ymlaen (dydd Sadwrn, 27 Mawrth), ni ofynnir i bobl yng Nghymru ‘aros yn lleol.’

Cynnwys
    • Newidiadau Eraill
  • Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
  • Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu
    • Amharu ar gyflenwadau…ond yn parhau i fod ar y trywydd iawn
    • Gwasanaeth newydd ar gyfer apwyntiadau ar ffurf neges destun
    • Mae brechlyn Oxford-AstraZeneca yn ddiogel ac yn effeithiol
  • Os oes gennych symptomau…
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Yn hytrach, bydd ganddynt ganiatâd i deithio i unrhyw le yng Nghymru.

Serch hynny, ni chaniateir teithio dianghenraid i mewn ac allan o Gymru (felly ni ddylech groesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer rhesymau dianghenraid megis hamdden).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r newidiadau fel rhan o lacio’r cyfyngiadau’n raddol ar ôl bron i dri mis o gyfnod clo.

Fel bob amser, bydd angen synnwyr cyffredin… felly dylech osgoi llefydd prysur, cymryd pethau’n araf, ac aros yng Nghymru.

Nodyn briffio Covid-19 – ‘Arhoswch yng Nghymru’ o yfory (27 Mawrth)

Newidiadau Eraill

Mae newidiadau eraill a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

Dydd Sadwrn, 27 Mawrth

• Gall llety twristiaeth hunangynhwysol ail-agor (er dim ond gan bobl sy’n byw yng Nghymru y dylai perchnogion dderbyn archebion ar hyn o bryd).
• Gall chwe pherson (yn lle pedwar) o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored i gymdeithasu, yn cynnwys mewn gerddi.
• Gall gweithgareddau wedi’u trefnu a chwaraeon awyr agored i rai o dan 18 oed ailddechrau (bydd meysydd chwaraeon awyr agored sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Wrecsam yn ailagor – er bydd ystafelloedd newid a chyfleusterau eraill wrth ochr y cau ar gau, yn ogystal â chanolfannau hamdden).

Dydd Llun, 12 Ebrill (cadarnhawyd yn flaenorol)

• Bydd pob siop yn cael ailagor (yr un dyddiad â siopau yn Lloegr).
• Bydd pob disgybl (cynradd ac uwchradd) nôl yn yr ysgol.

Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi

Ar y cyfan, mae Wrecsam yn y trydydd safle ar ddeg yng Nghymru, gyda 29.4 achos fesul 100,00 o’r boblogaeth ar sail saith diwrnod treigl.

Un ardal yn unig sydd â mwy na 100 o achosion fesul 100,000:
• Hermitage a Whitegate – 114 i bob 100,000.

Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi mewn mwy o fanylder, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.

Inside the factory saving lives across the UK 💉

Exclusive access on #BBCBreakfast looking at the manufacture, packing and distribution of the Oxford-AstraZeneca vaccine ⤵️https://t.co/p0SZcKtWXF pic.twitter.com/oXeyLseNwP

— BBC Breakfast (@BBCBreakfast) March 26, 2021

Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu

Yr wythnos hon bydd y bwrdd iechyd – gyda chefnogaeth gan feddygon teulu – yn pasio carreg filltir o ddarparu 300,000 o ddosys cyntaf, a chyfanswm o 400,000 o ddosys yng Ngogledd Cymru.

Dros y diwrnodau diwethaf, mae’r ffocws wedi parhau ar frechu’r grwpiau canlynol:

• Pobl rhwng 65-69 oed (Grŵp Blaenoriaeth 5)
• Pobl rhwng 16-64 oed gyda chyflyrau iechyd presennol (Grŵp Blaenoriaeth 6)
• Pobl rhwng 60-64 oed (Grŵp Blaenoriaeth 7)
• Ail ddosys i’r rhai a gafodd eu brechlyn cyntaf hyd at 12 wythnos yn ôl.

Amharu ar gyflenwadau…ond yn parhau i fod ar y trywydd iawn

Mae oedi gyda chyflenwad brechlyn y DU yn golygu y bydd byrddau iechyd yn derbyn llai o ddosys na’r hyn oedd wedi’i gynllunio’n wreiddiol ar gyfer dechrau mis Ebrill.

Mae hyn yn golygu y gall dosys cyntaf i bobl yng Ngrwpiau Blaenoriaeth 6-9 fod yn hwyrach na’r hyn a ddisgwyliwyd, ond ni fydd apwyntiadau ar gyfer ail ddosys yn cael eu heffeithio.

Os ydych chi yng Ngrwpiau Blaenoriaeth 6-9 ac os nad ydych chi wedi cael eich galw eto, peidiwch â chysylltu â’ch Meddyg teulu na’r Ganolfan Alwadau Brechu.

Byddant yn cysylltu â chi pan fydd eich tro chi’n dod, ac ni fydd yn rhaid i chi aros llawer hirach rŵan.

Er gwaethaf yr amhariad i gyflenwadau, mae Gogledd Cymru dal ar y trywydd i gyrraedd y targed o gynnig dos cyntaf i Grwpiau Blaenoriaeth 1-9 erbyn 19 Ebrill, ac i weddill y boblogaeth erbyn diwedd mis Gorffennaf (ar yr amod nad oes yna ragor o amhariad).

Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Gwasanaeth newydd ar gyfer apwyntiadau ar ffurf neges destun

Yr wythnos hon mae’r bwrdd iechyd wedi dechrau anfon gwahoddiad ar ffurf negeseuon testun ar gyfer apwyntiadau brechu sydd ychydig yn wahanol i negeseuon blaenorol.

Bydd y neges destun newydd yn cynnwys manylion eich apwyntiad a byddwch yn gallu ateb yn uniongyrchol os nad ydych hi’n gallu cyrraedd yr apwyntiad.

Yn ogystal â neges destun, byddwch yn derbyn llythyr yn y post yn cynnwys manylion eich apwyntiad. Gadewch i’r bwrdd iechyd wybod os nad ydych chi’n gallu mynychu.

A chofiwch…mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim. Ni ofynnir i chi am gopïau o’ch dogfennau personol na’ch manylion banc.

Mae brechlyn Oxford-AstraZeneca yn ddiogel ac yn effeithiol

Gallwn eich sicrhau bod y brechlynnau Covid-19 sydd wedi’u trwyddedu i’w defnyddio ar hyn o bryd yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae canlyniadau o dreial yn yr UDA o frechlyn Oxford-AstraZeneca yn dangos ei fod 79% yn effeithiol yn atal afiechyd Covid-19 symptomatig a 100% yn effeithiol wrth atal pobl rhag bod yn ddifrifol wael.

Mae Asiantaeth Reoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA), Asiantaethau Meddyginiaethau Ewrop (EMA), Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton wedi cadarnhau ei ddiogelwch.

Os oes gennych symptomau…

Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.

Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau cyfredol yng Nghymru
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Rhannu
Erthygl flaenorol Pwy ydyn nhw go iawn? Ffoniwch i wneud yn siŵr! Pwy ydyn nhw go iawn? Ffoniwch i wneud yn siŵr!
Erthygl nesaf Ydych chi’n ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir sy’n byw yng Nghymru? Peidiwch â cholli’r dyddiad cau i wneud cais am statws preswylydd sefydlog Ydych chi’n ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir sy’n byw yng Nghymru? Peidiwch â cholli’r dyddiad cau i wneud cais am statws preswylydd sefydlog

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English