Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pwy ydyn nhw go iawn? Ffoniwch i wneud yn siŵr!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pwy ydyn nhw go iawn? Ffoniwch i wneud yn siŵr!
Pobl a lle

Pwy ydyn nhw go iawn? Ffoniwch i wneud yn siŵr!

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2021 9:53 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Pwy ydyn nhw go iawn? Ffoniwch i wneud yn siŵr!
RHANNU

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach yn cynnal Cyfrifiad 2021 ar draws Cymru a Lloegr. Dydd Sul, 21 Mawrth oedd Diwrnod y Cyfrifiad. Dros yr wythnosau nesaf, bydd swyddogion y Cyfrifiad yn:

  • cnocio ar ddrysau rhai sydd heb ei gwblhau
  • helpu’r cyhoedd gydag ymholiadau

Ers dydd Llun, 22 Mawrth, mae swyddogion maes y Cyfrifiad wedi bod allan yn gweithio ar draws Cymru a Lloegr. Rydym ni wedi recriwtio tua 29,000 o aelodau o staff i ymweld â chartrefi.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Bydd gan yr holl swyddogion gardiau adnabod swyddogol. Bydd llun ac enw’r swyddog ar y cerdyn. Bydd y swyddogion yn gweithio drwy’r dydd i gysylltu â thrigolion, ond ni fyddant yn galw cyn 9am nac ar ôl 8pm.

Dylai unrhyw un sy’n pryderu nad yw’r person ar stepen eu drws yn swyddog Cyfrifiad ffonio 0800 169 2021 neu anfon neges destun at 86677. Peidiwch â ffonio rhif sy’n cael ei roi gan y sawl sy’n galw er mwyn gwirio pwy ydyn nhw.

Ni fydd swyddogion y Cyfrifiad byth yn gofyn am unrhyw arian na manylion banc ar unrhyw adeg yn ystod y sgwrs.

Mae staff maes yn cael eu cyfrif yn weithwyr allweddol. Mae’r gyfraith yn caniatáu i bobl adael eu cartrefi i weithio os nad ydynt yn gallu gweithio gartref pan mae cyfnod clo. Gan nad oes modd gwneud eu gwaith gartref, maent yn cael cyflawni dyletswyddau eu swydd.

Mae iechyd a diogelwch y cyhoedd a swyddogion y Cyfrifiad yn hollbwysig i ni. Mae’r ffordd y bydd swyddogion y Cyfrifiad yn gweithio yn 2021 wedi’i chynllunio i flaenoriaethu iechyd a diogelwch y cyhoedd a’r swyddogion. Bydd yr holl swyddogion yn gweithio gan gadw pellter cymdeithasol, byddant i gyd yn gwisgo PPE ac ni fyddant yn mynd i mewn i gartref unrhyw un.

Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sawl astudiaeth ac arolwg pwysig sy’n cydredeg â’r Cyfrifiad (mwy o fanylion yma). Mae hi felly yn bosib’ y bydd staff sy’n gweithio ar arolygon eraill hefyd yn ymweld â rhai cyfeiriadau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am waith sy’n cael ei wneud ar gyfer Cyfrifiad 2021, ffoniwch y Tîm Partneriaeth ar 01329 447434. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar www.cyfrifiad.gov.uk, neu gallwch anfon e-bost at 2021Census.LA.Liaison@ons.gov.uk

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Memorial Tree Plannu Coeden Gofio yn Sgwâr y Frenhines
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – ‘Arhoswch yng Nghymru’ o yfory (27 Mawrth)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English