Beth sydd ei angen i chi ei wneud o ddydd Llun ymlaen
Ddydd Llun (Tachwedd 9), bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol o bythefnos yn dod i ben yng Nghymru.
Rhaid i ni rŵan wneud yn siŵr bod yr ymdrech rydym ni i gyd wedi ei roi i’r cyfnod clo ddim yn cael ei wastraffu, a rhaid i ni barhau i gymryd camau i gadw’n gilydd yn ddiogel.
Felly o ddydd Llun ymlaen, dyma yw’r prif bethau mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi eu gwneud:
- Aros allan o gartrefi eich gilydd, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn.
- Cyfyngu ar faint rydych yn gadael eich cartref, a’r pellter byddwch yn ei deithio.
- Pan fyddwch yn gadael eich cartref, ceisiwch gyfyngu ar faint o bobl wahanol rydych yn eu gweld.
- Cadwch bellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored.
- Ceisiwch gwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach na dan do ble bo’n bosib.
- Gweithiwch gartref os yn bosib.
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd a dilynwch unrhyw gyngor arall ar hylendid.
- Hunan-ynyswch os ydych yn dangos symptomau
Gallwch gael canllawiau llawn ar wefan Llywodraeth Cymru:
Beth fydd yn ail-agor yn Wrecsam?
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd y cyfleusterau canlynol – oedd ar gau dros y cyfnod atal byr – yn ail-agor:
- Tair canolfan ailgylchu Bryn Lane, Plas Madoc a Brymbo (rhaid archebu slot o flaen llaw ym Mrymbo – ffoniwch 01978 801463 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun hyd at ddydd Gwener).
- Gwasanaethau ‘Archebu a chasglu’ mewn llyfrgelloedd lleol.
- Canolfannau hamdden, gan gynnwys Byd Dŵr Wrecsam a lleoliadau eraill Freedom Leisure.
- Caffis canolfannau adnoddau cymunedol.
- Maes parcio ac adeilad Tŷ Pawb.
- Marchnad ddydd Llun ar Sgwâr y Frenhines.
Bydd blynyddoedd 9, 10, 11, 12 ac 13 yn dychwelyd i’r ysgol ddydd Llun, fel a gynlluniwyd eisoes (dychwelodd disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 yn gynharach yr wythnos hon).
Bydd busnesau nad ydynt yn hanfodol – manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth, yn cael ail-agor, yn ogystal ag addoldai.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rhan o’r teulu? Peidiwch â gwneud i’r feirws deimlo’n gartrefol
Un o’r prif resymau dros ledaeniad y feirws yw trosglwyddiad yn y cartref.
Mewn geiriau eraill, mae pobl yn ei basio ymlaen i’r bobl mae nhw’n byw â nhw… neu i gartrefi eraill maent yn cymysgu â nhw.
Gall un aelwyd gario’r feirws yn hawdd i sawl lleoliad gwahanol. Gallai’r rhieni fynd a’r feirws i’r gwaith. Gallai’r mab fynd a’r feirws i’r coleg. Gallai’r ferch fynd a’r feirws i’r ysgol. Ac yn y blaen.
Felly os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau, mae’n bwysig eich bod yn dilyn y canllawiau hunan-ynysu gan Lywodraeth Cymru a’ch bod yn ceisio cadw pellter cymdeithasol a dilyn arferion hylendid da yn eich cartref (golchi dwylo, glanhau arwynebau ac ati).
Drwy wneud hyn, gallwch gyfyngu’r tebygolrwydd o ledaenu’r feirws o fewn eich aelwyd, ac i aelwydydd eraill.
Gallai hynny wneud gwahaniaeth enfawr, nid i chi a’ch teulu yn unig, ond i Wrecsam, Cymru, a’r DU.
Os gallwn ni wneud y pethau hyn rŵan, bydd gennym well cyfle o gadw’r feirws o dan reolaeth tan y bydd brechlyn ar gael… a gallwn edrych i’r dyfodol gyda gobaith.
Gwybodaeth bwysig arall
Dydd Sul y Cofio – cofiwch o gartref eleni os gwelwch yn dda
Ddydd Sul bydd y genedl yn oedi i gofio’r dynion a’r gwragedd a dalodd y pris eithaf i warchod ein gwlad.
Ond oherwydd coronafeirws, bydd pethau’n wahanol eleni, ac rydym yn eich annog i gofio o gartref drwy gymryd rhan mewn dwy funud o dawelwch o garreg eich drws am 11am, a drwy wylio’r cofio ar-lein neu ar y teledu.
Ni fydd parêd yn cael ei gynnal yn Wrecsam eleni. Bydd gwasanaeth preifat bychan iawn yn cael ei gynnal ger Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd ar gyfer llond llaw o bobl allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r lluoedd arfog.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu gwylio’r gwasanaeth ar dudalen Facebook Cyngor Wrecsam a bydd y gwasanaeth cenedlaethol o’r senotaff yn Llundain yn cael ei ddarlledu gan y BBC.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG