Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sul y Cofio – cofiwch o’ch cartref eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sul y Cofio – cofiwch o’ch cartref eleni
ArallPobl a lleY cyngor

Sul y Cofio – cofiwch o’ch cartref eleni

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 27, 2020 3:59 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
remembrance Sunday poppies
RHANNU

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer cyfnod clo o bythefnos, anogir pobl yn Wrecsam i nodi Sul y Cofio o’u cartrefi eleni.

Cynnwys
  • Gallwn ddangos ein parch o hyd
  • Dydd y Cadoediad, dydd Mercher, 11 Tachwedd

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn dau funud o dawelwch o garreg eich drws am 11am ddydd Sul, 8 Tachwedd, a gwylio’r digwyddiadau cofio ar-lein neu ar y teledu.

Ni fydd parêd yn cael ei gynnal yn Wrecsam eleni. Bydd gwasanaeth preifat bychan iawn yn cael ei gynnal ger Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd ar gyfer llond llaw o bobl allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r lluoedd arfog.

Gobeithiwn y byddwch yn gallu gwylio’r gwasanaeth ar dudalen Facebook Cyngor Wrecsam a bydd y gwasanaeth cenedlaethol o’r senotaff yn Llundain yn cael ei ddarlledu gan y BBC.

Mae’r trefniadau hyn yn cyd-fynd â’r Cyfnod Atal Byr o bythefnos yng Nghymru, sy’n dod i rym am 6pm ddydd Gwener, 23 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun, 9 Tachwedd.

Gallwn ddangos ein parch o hyd

Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam:

“Mae’r pandemig Covid-19 yn un o’r heriau mwyaf mewn hanes y mae’r wlad wedi ei wynebu, ac mae’r angen i gadw pobl yn ddiogel a chadw at ganllawiau’r llywodraeth yn golygu na fydd parêd na gwasanaeth cyhoeddus agored yn cael eu cynnal yn Wrecsam eleni.

“Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na allwn gofio’r rheiny sydd wedi dioddef ac aberthu eu bywydau yn rhyfela, ac rwy’n gofyn i bawb yn y fwrdeistref sirol gymryd rhan mewn dau funud o dawelwch ar garreg eu drws eleni.

“Gallwch hefyd wylio’r gwasanaeth cenedlaethol ar y teledu, a gobeithiwn y byddwn yn gallu rhannu rhai fideos o’r gwasanaeth preifat ym Modhyfryd ar-lein.

“Peidiwch â cheisio mynychu’r gwasanaeth ym Modhyfryd os gwelwch yn dda. Mae’r neges gan Lywodraeth Cymru yn glir… mae’n rhaid i bob un ohonom aros gartref yn ystod y cyfnod clo o bythefnos os oes arnom ni eisiau helpu Cymru i fynd i’r afael â’r feirws, lleihau’r pwysau ar y GIG ac arbed bywydau.

“Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu dod at ein gilydd eleni, ond gyda’n gilydd, gallwn gofio o hyd.”

Meddai Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru:

“Er ei fod yn hynod siomedig fod digwyddiadau Coffa yn cael eu cynnal mewn modd gwahanol eleni, rydym yn deall fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn diogelu iechyd a lles pawb sydd ynghlwm.

“Serch hynny, mae modd i’r cyhoedd helpu i sicrhau fod Sul y Cofio yn cael ei nodi’n briodol, ac mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog pobl i gofio mewn ffordd fwy personol eleni – p’un a ydych yn gwylio’r Gwasanaeth Coffa ar y teledu neu’n oedi am ddau funud o dawelwch ar garreg eich drws.”

Dydd y Cadoediad, dydd Mercher, 11 Tachwedd

Yn ogystal â Sul y Cofio, mae Wrecsam fel arfer yn nodi Dydd y Cadoediad ar 11 Tachwedd drwy weithred o goffadwriaeth ar Sgwâr y Frenhines – gan gynnwys dau funud o dawelwch am 11am.

Fodd bynnag, bydd y trefniadau eleni ychydig yn wahanol, a bydd yn rhaid cadw at gyfyngiadau’r coronafeirws fydd ar waith bryd hynny.

Darperir rhagor o wybodaeth yn fuan.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ty pawb Taith rithiol newydd arddangosfa Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Learning at Lunchtime Mynediad at 1,000’oedd o lyfrau a llyfrau sain o’ch cartref.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English