Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – brechu yw’r allwedd i oroesi’r gaeaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – brechu yw’r allwedd i oroesi’r gaeaf
Arall

Nodyn briffio Covid-19 – brechu yw’r allwedd i oroesi’r gaeaf

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 3, 2021 5:39 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Nodyn briffio Covid-19 – brechu yw’r allwedd i oroesi’r gaeaf
RHANNU

Mae llawer o wledydd Ewrop yn teimlo effeithiau niferoedd Covid uchel ar hyn o bryd – gyda gwledydd fel Almaen, Awstria a’r Iseldiroedd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd.

Cynnwys
  • Straen Omicron
  • Gwisgwch fwgwd
    • Masgiau mewn ysgolion uwchradd
  • Clinigau galw heibio i’r rhai rhwng 12 a 15 oed
  • Profion llif unffordd – y canllawiau diweddaraf
  • Sut i gael Pàs COVID y GIG yng Nghymru
  • Dolenni defnyddiol

Gyda datblygiad yr Amrywiolyn o bryder “omicron” sydd gyda’r potensial I ledaenu yn sydyn, gall neb fod yn siwr na fydd y Deyrnas Unedig yn teimlo effaith llawn “pedwerydd cyfnod” or haint.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae hyn yn tanlinellu cynyddol pwysigrwydd cael eich brechu. Felly os cewch chi gynnig pigiad – p’un ai’n ddos cyntaf, yr ail ddos neu’n bigiad atgyfnerthu – ewch amdani.

Straen Omicron

Dros yr wythnos diwethaf, mae’r straen newydd Omicron a ganfuwyd yn ddiweddar wedi achosi tro arall yn hanes y pandemig.

Credir ei fod yn fwy heintus nag amrywolion blaenorol, a ni fyddwn yn ymwybodol am sawl wsnos a yw hwn cyn ddrwg neu o bosib yn waeth, na Amrywiolyn Delta, sydd wedi bod yn ddigon drwg.

Mae’n tanlinellu pwysigrwydd cael brechlyn, gwisgo gorchudd wyneb yn yr ardaloedd cywir a bod yn ofalus.

Gwisgwch fwgwd

Cofiwch – oni bai eich bod wedi’ch eithrio, mae angen i chi barhau i wisgo mwgwd dan do yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru – fel siopau ac ar gludiant cyhoeddus

Mwgwd

Masgiau mewn ysgolion uwchradd

Fel rhagofal (wrth i ni ddysgu rhagor am Omicron) mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai disgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do, lle nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol.

Mae gorchuddion wyneb yn parhau i gael eu hargymell ar gludiant i’r ysgol hefyd.

Clinigau galw heibio i’r rhai rhwng 12 a 15 oed

Mae rhestr gyfredol o glinigau galw heibio er mwyn caniatáu i’r rhai rhwng 12 a 15 oed dderbyn dos cyntaf ar gael ar wefan Betsi Cadwaladr.

Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi dal COVID-19, argymhellir eich bod ch’n dod atom i gael eich dos cyntaf yr un fath.

Yn ddelfrydol, dylai’r sawl sy’n iau na 18 oed sydd wedi dal y firws yn ddiweddar aros am 12 wythnos nes cael eu brechiad, oni bai eu bod mewn grŵp sydd â risg fwy o salwch difrifol.

Rydym yn awyddus i bobl ifanc wneud penderfyniad cytbwys am frechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Man cychwyn da yw Canllaw Brechiadau COVID-19 i Blant a Phobl Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Profion llif unffordd – y canllawiau diweddaraf

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei ganllawiau’n ddiweddar ar bryd i gymryd prawf llif unffordd os nad oes gennych chi symptomau.

Os ydych chi dros 11 oed, cewch eich annog bellach i gymryd prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos (bob tri neu bedwar diwrnod) os nad oes gennych chi symptomau Covid-19.

Cewch eich annog i gymryd prawf hefyd:

    • Os ydych chi am fod mewn sefyllfa â risg uwch, gan gynnwys treulio amser mewn mannau llawn pobl neu fannau caeedig.
    • Cyn i chi fynd i weld pobl sydd â risg uwch o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i ddal Covid.
    • Os ydych chi’n teithio i fannau eraill o Gymru neu’r DU.

Sut i gael Pàs COVID y GIG yng Nghymru

Rhai i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG. Ni allwch ddefnyddio ap y GIG i gael Pàs COVID y GIG os ydych yn byw yng Nghymru. Gallwch lawr lwytho ac argraffu Pàs COVID y GIG.

Mae’n rhaid i chi fod:

      • dros 16 oed
      • wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru

Bydd angen i chi lwytho llun o un o’r canlynol:

      • pasport
      • trwydded yrru llawn y DU
      • trwydded yrru llawn Ewropeaidd
      • Cael eich Pàs COVID y GIG ar nhs.uk

Os nad oes gennych ID sy’n cynnwys llun, bydd angen ichi ofyn am fersiwn bapur o dystysgrif COVID y GIG.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk”]TREFNWCH EICH PÀS COVID[/button]

Dolenni defnyddiol

    • Sut i archebu prawf Covid
Rhannu
Erthygl flaenorol Give Blood Rhowch y rhodd orau i rywun y Nadolig hwn drwy roi gwaed.
Erthygl nesaf Ysgol Clwedog Disgyblion Ysgol Clywedog yn camu i’r llwyfan yn TEDx talks

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
Diweddariad ar y brechlyn MenB
Arall

Diweddariad ar y brechlyn MenB

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English