Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch y rhodd orau i rywun y Nadolig hwn drwy roi gwaed.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhowch y rhodd orau i rywun y Nadolig hwn drwy roi gwaed.
Arall

Rhowch y rhodd orau i rywun y Nadolig hwn drwy roi gwaed.

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 3, 2021 4:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Give Blood
RHANNU

Erthyl Gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Cynnwys
  • “Gallwn edrych ymlaen at y Nadolig”
  • “Derbyn gwaed yw’r rhodd orau y gallai unrhyw un ei chael.”
  • “Rrhodd orau’ y Nadolig hwn.”

Mae mam a oedd angen trallwysiadau gwaed yn y groth yn ystod ei beichiogrwydd a dyn sy’n dibynnu ar roddion gwaed rheolaidd, yn annog cymunedau ar draws Cymru i roi ‘yr anrheg orau’ y Nadolig hwn drwy roi gwaed.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn paratoi i wynebu pwysau’r Gaeaf ar ei wasanaethau, ac mae’n gobeithio y bydd ei ymgyrch Nadolig newydd, sef ‘yr anrheg orau’, yn helpu i godi ymwybyddiaeth am roi gwaed ac am y gwahaniaeth mae’n ei wneud.

“Gallwn edrych ymlaen at y Nadolig”

Roedd Shelley Parry, sy’n fam i ddau o blant, angen trallwysiadau gwaed yn ystod ei dau beichiogrwydd. Ar ôl i’w bywyd hi ei hun gael ei achub yn ystod ei beichiogrwydd cyntaf, derbyniodd Shelley fwy o drallwysiadau gwaed yn syth i mewn i’w groth i gadw ei merch ieuengaf yn fyw.

Meddai Shelley: “Derbyn gwaed yw’r anrheg orau rydym erioed wedi’i chael. Fe fyddwn yn ddiolchgar am byth fel teulu i’r rheini sydd wedi cymryd yr amser i roi gwaed. Heb haelioni rhoddwyr gwaed, yn syml iawn, ni fuasen ni’n rhieni. Diolch i’w gweithred anhunanol nhw, gallwn edrych ymlaen at y Nadolig gyda’n gilydd fel teulu.

“Dim ond awr o’ch amser mae’n ei gymryd i roi gwaed felly os allwch chi, ystyriwch roi gwaed.”

Give Blood

Mae Giggs Kanias yn cefnogi’r ymgyrch hefyd.  Mae Giggs wedi derbyn dros 1,000 o drallwysiadau gwaed ers iddo gael ei eni, fel rhan o’i driniaeth ar gyfer beta thalassaemia, sef anhwylder gwaed difrifol. Diolch i roddwyr gwaed, mae Giggs yn edrych ymlaen at ddathlu’r Nadolig gyda’i deulu.

“Derbyn gwaed yw’r rhodd orau y gallai unrhyw un ei chael.”

Meddai Giggs: “Rydw i mor ddiolchgar i’r bobl anhygoel sy’n rhoi gwaed. Pan fyddaf yn yr ysbyty, rwy’n syllu ar y bagiau gwaed sy’n cael eu trallwyso mewn i mi ac yn meddwl bob amser, pwy yw’r person sydd wedi fy helpu?

Rwy’n gwybod y gwahaniaeth mae’r bobl hyn wedi’i wneud i fy mywyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt. Heb eu haelioni, fuaswn i ddim yma heddiw, fuaswn i ddim yn dad, nac wedi cael cyfle i weld fy merch yn tyfu fyny. Derbyn gwaed yw’r rhodd orau y gallai unrhyw un ei chael.”

Give Blood

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “I gleifion fel Giggs, derbyn gwaed fydd yr anrheg orau maen nhw’n ei dderbyn y Nadolig hwn. Dyma’r rhodd orau y gallwch ei rhoi.

“Mae gan gynnyrch gwaed oes silff fer, ac mae ysbytai angen gwaed 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys ar ddydd Nadolig, i helpu i gefnogi cleifion mewn angen, a dyna pam na allwn roi’r gorau i gasglu gwaed.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu cynnyrch gwaed i 20 o ysbytai ar draws Cymru ac i bedair awyren Ambiwlans Awyr Cymru i’w defnyddio mewn argyfwng.

“Rrhodd orau’ y Nadolig hwn.”

Mae Alan yn parhau: “Mae’n bwysig dros ben bod y gwasanaeth yn paratoi. Mae angen inni gynyddu stociau gwaed cyn gaeaf a allai fod yn heriol, lle gall salwch tymhorol a Covid-19 waethygu’r pwysau gaeaf arferol sydd yn cael ei wynebu gan y GIG.

“Rydym yn estyn allan at gymunedau ar draws Cymru i ofyn iddynt roi rhodd o waed sy’n achub bywydau, a rhoi’r ‘rhodd orau’ y Nadolig hwn.”

Gwnewch rywbeth anhygoel y Nadolig hwn. Rhowch yr anrheg orau i rywun. Rhowch waed https://wbs.wales/WrexhamCouncilNovDec.

Rhannu
Erthygl flaenorol fly tipping Tipio Anghyfreithlon – sut rydym yn mynd i’r afael â’r broblem
Erthygl nesaf Nodyn briffio Covid-19 – brechu yw’r allwedd i oroesi’r gaeaf Nodyn briffio Covid-19 – brechu yw’r allwedd i oroesi’r gaeaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English