Dyma adroddiad gan newyddion ITV. Cafodd ei ffilmio mewn ysbyty mewn ardal arall o’r DU, ond mae’r neges yn berthnasol i bawb….. lle bynnag rydach chi’n byw.
Mae Covid-19 yn loteri, a gall cael y brechiad olygu’r gwahaniaeth rhwng bod yn saff a bod yn ddifrifol wael.
????????????
Cael eich hen ffordd o fyw yn ôl
Mwy a mwy yn y dyfodol efallai y byddwch angen profi eich bod wedi cael eich brechu i fynd dramor, mynychu digwyddiadau, cael mynediad i sefydliadau neu weithio mewn proffesiynau penodol.
Felly os nad ydych wedi cael eich brechiadau eto, ceisiwch eu cael nhw cyn gynted â phosib (y ddau ddos).
Archebu ar-lein
Gallwch archebu apwyntiadau ar gyfer eich dos cyntaf a’ch ail ddos ar-lein. Mae’n sydyn ac yn hawdd.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN
Cyfleodd galw heibio mewn canolfannau brechu
Ar hyn o bryd, gallwch alw heibio yng nghanolfan Catrin Finch (LL11 2HS) heb apwyntiad, ac – yn dibynnu os yw cyflenwad yn caniatáu – bydd staff yn gallu cynnig brechlyn i chi.
Clinigau Dros Dro
Mae’r GIG yn defnyddio clinigau dros dro yng Ngogledd Cymru. Nid oes angen trefnu apwyntiad – gallwch alw heibio’n ddirybudd i gael eich brechlyn.
Cadwch olwg ar trydar y bwrdd iechyd lleol a Chyngor Wrecsam am fwy o wybodaeth.
????????????
Fe fydd yna glinig untro ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam (ym Mharc Busnes Redwither), Dydd Sadwrn yma, Gorffennaf 24 o 10yb– 4yp, yn cynnig dos cyntaf ac ail ddos i bobl oed 18+. Does dim rhaid gwneud apwyntiad – jyst troi fyny.
????????????
Archebu dros y ffôn
Mae’n haws archebu ar-lein, ond os nad ydych yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Frechu ar 03000 840004.
Brechu ar gyfer plant a phobl ifanc
Yr wythnos hon mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cynghori y dylai plant sydd mewn risg cynyddol o fod yn ddifrifol wael gyda Covid gael cynnig y brechlyn Pfizer.
Mae hynny’n cynnwys plant 12 a 15 oed gydag anableddau niwro sylweddol, Syndrom Down, gwrthimiwnedd ac anableddau dysgu amryfal neu sylweddol.
Mae’r Cyd-Bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell fod plant a phobl ifanc rhwng 12 a 17 oed ac sy’n byw gydag unigolyn â gwrthimiwnedd yn cael cynnig y brechlyn.
Mae’r bwrdd iechyd GIG lleol yn edrych rŵan ar y ffordd orau o ddarparu’r brechlyn i’r bobl ifanc hyn, ac am ddarparu gwybodaeth bellach yr wythnos nesaf.
Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan eich bwrdd iechyd GIG lleol.
Uned profi symudol yn Johnstown bob dydd Llun
Bydd uned brofi symudol yn agor yng nghymuned Johnstown, Wrecsam, i’w gwneud yn haws i bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal i gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleuster profi mynediad-rhwydd yn cynnig prawf llif unffordd cyflym yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown, bob dydd Llun gan gychwyn ar 26 Gorffennaf.
Bydd y cyfleuster yn y maes parcio gyferbyn â’r ganolfan gymunedol, a bydd ar agor rhwng 9:30am a 5pm ar 26 Gorffennaf.
Uned profi symudol yn Johnstown bob dydd Llun – anogir preswylwyr lleol heb symptomau i gael prawf
Os yw eich plentyn yn fod i hunanynysu…
Mae hi’n wyliau’r haf ac yn ddealladwy mae plant eisiau bod allan yn cael hwyl.
Ond waeth gymaint ydych eisiau ildio i demtasiwn os yw eich plentyn yn fod i hunanynysu gwnewch yn siŵr eu bod chi’n cadw nhw adref am y cyfnod hunanynysu llawn.
Cadwch eich cymuned yn saff.
Symptomau? Ewch i gael prawf
Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws – neu os ydych wedi eich nodi fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu – sicrhewch eich bod yn hunan ynysu ac yn cael prawf.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Symptomau ychwanegol
Mae bellach yn bosibl i chi gael prawf am ddim os oes gennych chi symptomau eraill.
Yn ogystal â’r tri arwydd gwreiddiol – gwres, peswch newydd parhaus neu golli/newid yn y gallu i flasu ac arogli – gall pobl gael prawf os oes ganddyn nhw symptomau eraill hefyd.
Sef:
- Symptomau fel ffliw nad ydyn nhw’n cael eu hachosi gan gyflyrau eraill (fel clefyd y gwair), gan gynnwys poenau yn y cyhyrau, blinder mawr, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n llawn, tisian parhaus, dolur gwddf ac/neu grygni, byr o wynt neu frest dynn.
- Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19.
- Unrhyw symptomau newydd neu symptomau’n newid yn dilyn prawf negatif blaenorol.
Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru).<.li>
- Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd.