Bydd Cymru’n symud i ‘lefel rhybudd dau’ ddydd Llun (17 Mai), gan fod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau’n isel a’r rhaglen frechu’n parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae hyn yn newyddion bendigedig ac teimlo fel ein bod wir ar y trywydd tuag at adferiad ar ôl cyfnod hunllefus.
Bydd llacio rhai cyfyngiadau ddydd Llun yn golygu – ymysg pethau eraill – y bydd gwasanaeth dan do yn ailddechrau mewn tafarndai, bwytai a chaffis ledled Cymru, cam calonogol arall tuag at normalrwydd.
Ond mae’n rhaid i ni aros yn wyliadwrus. Rydym wedi gweld sawl tro annisgwyl yn ystod y pandemig yma, yr wythnos hon rydym eisoes wedi gweld pryderon newydd am ‘amrywiolyn India’ y feirws.
Felly mae cadw at y rheolau sylfaenol – cadw pellter cymdeithasol, awyr iach, gwisgo mwgwd a golchi ein dwylo – yn dal yn hynod bwysig.
Byddwch yn optimistaidd. Ond byddwch yn ofalus hefyd.
Cyngor ar fynd i’r dafarn
Mae ailagor lletygarwch dan do yng Nghymru yn golygu, o ddydd Llun ymlaen, y cewch eistedd dan do am beint yn eich tafarn leol.
Ond nid yw’r feirws wedi diflannu, mae’n dal yma ac mae angen i ni barhau i gymryd rhagofalon i sicrhau bod yr achosion yn parhau’n isel.
Dilynwch y canllawiau isod:
• Archebwch ymlaen llaw lle bynnag bo’n bosibl.
• Rhowch eich manylion ar gyfer olrhain cysylltiadau.
• Cadwch bellter cymdeithasol rhwng byrddau.
• Cadwch at y ‘rheol o chwech’ (gall chwech o bobl o hyd at chwech o aelwydydd gwahanol gyfarfod – dim mwy).
• Cadw at unrhyw gyfyngiadau amser.
• Arhoswch i weithiwr ddod at eich bwrdd i gymryd eich archeb (dim ond cwsmeriaid sy’n eistedd wrth fyrddau fydd yn cael eu gweini).
Lletygarwch Dan Do i ailagor wrth i’r sefyllfa wella – ond gadewch i ni gadw’n ddiogel
Dyddiadau a newidiadau allweddol
Dyma grynodeb sydyn o’r prif newidiadau yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.
Dydd Llun, 17 Mai
• Gall lletygarwch o dan do ailagor, ac fe ganiateir i chwech o bobl o hyd at chwech o aelwydydd gyfarfod mewn tafarndai, bwytai a chaffis.
• Gall lletyau gwyliau ailagor yn llawn.
• Gall adloniant o dan do ac atyniadau ymwelwyr o dan do ailagor – yn cynnwys, sinemâu , canolfannau bowlio deg, neuaddau bingo, canolfannau chwarae meddal, theatrau, amgueddfeydd ac orielau.
• Gellir cynnal gweithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl dan do a 50 o bobl yn yr awyr agored.
Bydd teithio rhyngwladol hefyd yn ailddechrau ddydd Llun, ond bydd mesurau diogelu ychwanegol mewn lle ar gyfer pobl sy’n dychwelyd o rai gwledydd.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ond pan fydd hynny’n hanfodol.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Newidiadau i wasanaethau’r cyngor
Yn dilyn newidiadau i gyfyngiadau, mae llawer o gyfleusterau cyhoeddus wedi ailagor yn Wrecsam dros yr wythnosau diwethaf…yn cynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.
Bydd rhagor o gyfleusterau yn ailagor dros y dyddiau nesaf…
Amgueddfa Wrecsam
Bydd yr amgueddfa’n ailagor ddydd Llun, 17 Mai. Bydd hyn yn cynnwys yr holl orielau, archifau a Chaffi’r Cwrt – gyda seddi dan do ac awyr agored ar gael.
Yr oriau agor fydd 10am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac 11am-4pm ar ddydd Sadwrn.
Orielau a neuadd fwyd Tŷ Pawb
Bydd orielau Tŷ Pawb yn ailagor ddydd Llun – yn ogystal â’r ardal eistedd dan do yn y neuadd fwyd.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n gallu mwynhau bwyd a diod bwyta i mewn unwaith eto.
Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam
Bydd y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar Stryt Caer (a ddaeth yn lle’r hen Ganolfan Groeso ar Stryt y Lampint) yn agor ddydd Mawrth, 18 Mai fel rhan o ddull graddol.
I ddechrau, bydd y ffocws ar ddarparu desg wybodaeth i’r cyhoedd, a bydd y ganolfan ar agor 11am-2pm ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau (sylwch y gallwch e-bostio tourism@wrexham.gov.uk y tu allan i’r oriau hyn).
Yn ddiweddarach eleni – pan fydd y cyfyngiadau wedi’u llacio ymhellach – bydd y ganolfan yn ehangu ei gweithgareddau i gynnal digwyddiadau ac arddangos crefftau a chynnyrch lleol.
Canolfannau Adnoddau Cymunedol
Rydym yn defnyddio dull graddol ar gyfer agor ein canolfannau adnoddau cymunedol ym Mhlas Pentwyn (Coedpoeth), Acton, Brynteg, Gwersyllt a Llai.
Dros y dyddiau nesaf bydd rheolwyr canolfannau yn cysylltu gyda chwsmeriaid sy’n llogi ystafell yn rheolaidd (e.e. grwpiau lleol) i weld os ydynt yn barod i ddychwelyd, trafod mesurau Covid a’u cefnogi gydag unrhyw asesiadau risg sydd eu hangen.
Dim ond archebion ar gyfer grwpiau bach (hyd at 15 o bobl dan do) a ganiateir i ddechrau- caniateir grwpiau mwy yn nes ymlaen.
Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu
Mae dros dri chwarter o oedolion yng Ngogledd Cymru bellach wedi derbyn o leiaf un dos o’r brechlyn.
Mae’n gyflawniad gwych – a wnaed yn bosib’ drwy ymdrechion pobl sy’n gweithio mewn canolfannau brechu, meddygfeydd ac ar draws y GIG.
Mae’r rhaglen yn parhau i fynd rhagddi, ac mae Gogledd Cymru ar y trywydd iawn i gynnig brechiad i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Newidiadau i sut mae brandiau gwahanol o’r brechlyn yn cael eu defnyddio
Yr wythnos diwethaf, bu i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu newid ei ganllawiau ar sut y caiff cyflenwadau gwahanol o’r brechlyn eu defnyddio.
Dywedodd, lle bo’n bosib’, y dylid cynnig brechlyn gwahanol i’r brechlyn Oxford AstraZeneca i unigolion 30 – 39 mlwydd oed.
Mae hwn yn fesur rhagofalus oherwydd risg bychan iawn o glotiau gwaed yn digwydd yn y grŵp oedran hwn.
O ganlyniad, bydd unigolion 18-39 mlwydd oed nawr yn derbyn y brechlyn Pfizer a bydd unigolion dros 40 mlwydd oed yn derbyn y brechlyn Oxford AstraZeneca.
Os ydych eisoes wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca, gallwch fod yn sicr ei bod yn ddiogel i dderbyn yr ail ddos o’r un brand, beth bynnag yw eich oedran.
Mae hyn yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ond gall eithriadau meddygol fod yn berthnasol i leiafrif bach iawn.
Ewch i’ch apwyntiad
Rydym yn parhau i weld nifer fawr o bobl sy’n methu â mynychu eu hapwyntiadau.
Nid yw brechlynnau byth yn cael eu taflu i ffwrdd, gan fod y bwrdd iechyd lleol yn gallu galw ar bobl ar fyr rybudd.
Ond mae pob apwyntiad sy’n cael ei fethu’n gwastraffu adnoddau hollbwysig ac mae’n creu heriau logistaidd i staff y GIG.
Mae’r rhan fwyaf o’r apwyntiadau hyn yn cael eu methu gan nad yw pobl wedi rhoi gwybod na allant fynychu, neu nad ydynt yn awyddus i gael eu brechu.
Os nad ydych yn gallu mynychu neu os nad ydych eisiau derbyn y brechlyn, rhowch wybod i’r GIG.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Sut i gael gwared ar ddyfeisiau prawf llif unffordd
Os ydych chi’n defnyddio pecynnau profi gartref, mae’n bwysig eich bod yn eu gwaredu’n gywir ar ôl eu defnyddio.
Os yw’r prawf yn negyddol, rhowch y ddyfais mewn bag, clymwch y bag a’i roi yn y bin gwastraff cyffredinol.
Os yw’r prawf yn bositif, rhowch ddau fag am y ddyfais – gan sicrhau fod y bagiau wedi eu cau’n ddiogel (wedi eu clymu/selio), yna cadwch hwn am 72 awr cyn ei roi yn eich bin gwastraff cyffredinol.
Peidiwch â rhoi pecynnau profi yn eich cynwysyddion ailgylchu ar ôl eu defnyddio.
Symptomau neu wedi’ch nodi fel ‘cyswllt’?
Os oes gennych chi symptomau’r coronafeirws – neu os ydych wedi’ch nodi’n ‘gyswllt’ gan y gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu – gofalwch eich bod yn hunanynysu ac yn cael prawf ‘PCR’.
Efallai mai dyma fydd y peth pwysicaf a wnewch chi byth.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF