Rydym ni wedi bod trwyddi, ond mae pethau’n gwella.
Mae cyfraddau haint yn parhau i ostwng ar draws Wrecsam i gyd, ac er bod y gostyngiad wedi arafu dros y dyddiau diwethaf, gallwn ni weld sut mae’r cyfnod clo wedi’n helpu i gael y blaen eto.
Mae pwysau ar y GIG wedi lleihau ychydig, a gyda’r rhaglen frechu’n parhau i gael ei chyflwyno, mae pethau’n bendant yn gwella.
Ond (ac mae bob amser ‘ond’ gyda’r feirws hwn)…
Os byddwn ni’n ymlacio’n rhy fuan, neu’n dechrau anwybyddu rheolau’r cyfnod clo wrth i’r gwanwyn gyrraedd, byddwn ni’n ôl i le ddechreuon ni.
Ac mae’n werth nodi bod rhai rhannau o’r fwrdeistref sirol wedi gweld cynnydd bach dros y dyddiau diwethaf.
Meddyliwch amdano fel gêm bêl-droed. Mae 20 munud i fynd ac rydym ni’n ennill o un i ddim, ond os byddwn ni’n rhoi’r gorau i’n hymdrechion rŵan a pheidio gweithio fel tîm, gallem golli’r gêm.
Daliwch ati i roi eich gorau, a chadw at y rheolau.
Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae Wrecsam i gyd yn y pedwerydd safle yng Nghymru bellach, gyda 65 fesul 100,000 o’r boblogaeth ar sail saith diwrnod treigl.
Mae hynny’n waeth na’r wythnos diwethaf, ond mae’n welliant mawr o ystyried mai ni oedd y gwaethaf yng Nghymru y rhan fwyaf o fis Ionawr a Chwefror.
Mae lefelau’r feirws yn y rhan fwyaf o’r fwrdeistref sirol yn parhau i ostwng, er bod rhai ardaloedd wedi gwaethygu rhywfaint yr wythnos hon, gan gynnwys:
• Hermitage a Whitegate – 103 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 57 yr wythnos diwethaf).
• New Broughton a Bryn Cefn – 103 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 64 yr wythnos diwethaf).
• Cefn Mawr – 76 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 33 yr wythnos diwethaf).
• Rhiwabon a Marchwiail – 75 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â llai na 31 yr wythnos diwethaf).
Pedair ardal yn unig sydd â mwy na 100 o achosion fesul 100,000:
• Borras a Rhosnesni – 124 fesul 100,000 o’r boblogaeth (yr un fath â’r wythnos diwethaf).
• Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 118 fesul 100,000 o’r boblogaeth (yr un fath â’r wythnos diwethaf).
• Hermitage a Whitegate – 103 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 57 yr wythnos diwethaf).
• New Broughton a Bryn Cefn – 103 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 64 yr wythnos diwethaf).
Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.
Mae’r feirws yn parhau i ledaenu’n bennaf mewn aelwydydd rhwng aelodau’r teulu.
Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu
Hyd yma, mae mwy na 257,000 o frechiadau wedi’u rhoi yng Ngogledd Cymru, gyda bron 40,000 yn Wrecsam.
Mae’r rhaglen frechu yn parhau i gael ei chyflwyno, gyda’r canolbwynt ar bobl rhwng 65 a 69 oed ar hyn o bryd.
Mae cyflenwadau o’r brechlyn ar draws y wlad wedi gostwng rhywfaint oherwydd lefelau cynhyrchu yn ddiweddar, ond disgwylir iddynt gynyddu’n sylweddol iawn o’r wythnos nesaf.
Bydd meddygfeydd meddygon teulu yng Ngogledd Cymru sydd wedi brechu 80 y cant o’u cleifion rhwng 65 a 69 oed yn dechrau cynnig brechiadau i bobl rhwng 16 a 64 oed rŵan sydd â chyflyrau iechyd eraill.
“Mae'n arferol i feirysau newid. Mae'n rhan o'u cylch bywyd. Ac mae'n rhan o'r rheswm pam maent mor llwyddiannus.”
Dr Catherine Moore sy'n esbonio pam mae feirysau'n newid dros amser. pic.twitter.com/YD3dPgAwGs
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) March 3, 2021
Apwyntiadau brechu – gair i gall
Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i ddarparu’r rhaglen yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i helpu.
• Peidiwch â ffonio’r GIG na’r meddyg teulu i ofyn am apwyntiad ar gyfer y brechlyn (oni bai eich bod wedi cael cyngor i wneud hynny). Byddan nhw’n cysylltu pan ddaw eich tro chi.
• Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffonau os nad ydym yn adnabod y rhif. Fodd bynnag, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y GIG yn ceisio eich ffonio os bydd yna apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
• Os byddwch yn cael gwahoddiad ar gyfer apwyntiad ond ddim eisiau derbyn y brechlyn, yna dylech adael i’r GIG wybod fel y gallant ei gynnig i rywun arall.
• Pan fyddwch yn mynd i apwyntiad, cadwch bellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â masg wyneb. Dylech hefyd ddod â llun adnabod.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Cofiwch…mae brechiad am ddim
Mae yna bobl a allai geisio’ch twyllo.
Cofiwch…. ni fydd unrhyw un byth yn gofyn i chi ‘gofrestru’ na thalu i gael eich brechu ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrinair.
Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.
Y wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
Mae ysgolion ar draws Wrecsam yn dal i gynllunio a pharatoi, wrth i fwy o blant ddychwelyd yn raddol i’r ystafelloedd dosbarth.
Mae disgyblion y cyfnod sylfaen (meithrin, derbyn, blwyddyn 1 a 2) wedi bod yn dychwelyd yn raddol ers 25 Chwefror (ychydig ddyddiau ar ôl rhannau eraill o Gymru ble roedd lefelau coronafeirws yn is o lawer).
Ers hynny, mae pethau wedi gwella’n sylweddol ar draws y wlad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd mwy o blant yn gallu dychwelyd o 15 Mawrth ymlaen.
Nodyn i’ch atgoffa…
Dyddiadau allweddol ar gyfer mynd yn ôl
• Bydd plant ysgolion cynradd i gyd (blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) yn ôl yn yr ysgol erbyn 15 Mawrth.
• Bydd disgyblion uwchradd blynyddoedd 11 a 13 (blynyddoedd arholiad) hefyd yn ôl ar 15 Mawrth, yn ogystal â rhai disgyblion blwyddyn 10 a 12 sy’n gwneud arholiadau.
• Bydd pob disgybl uwchradd yn ôl yn yr ysgol llawn amser o 12 Ebrill (ar ôl gwyliau’r Pasg).
• Efallai y bydd ysgolion yn gallu cynnig sesiynau galw mewn i flynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg. Os yw hyn yn wir, bydd eich ysgol yn cysylltu gyda’r manylion.
Pa bryd mae disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol yn Wrecsam? Nodyn i’ch atgoffa…
Cadwch at y cyfyngiadau
Dylech ymddwyn fel bod gennych chi – a phawb rydych yn eu cyfarfod – Covid-19.
Cadwch at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru:
• Peidiwch â chymysgu gyda phobl o aelwydydd eraill – er bod hyd at bedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol yn cael gwneud ymarfer corff gyda’i gilydd yn yr awyr agored.
• Peidiwch â theithio heblaw at ddibenion hanfodol yn unig, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
• Dylid dechrau a gorffen ymarfer corff o’r cartref. Wrth i’r tywydd wella, peidiwch â chael eich temtio i yrru i rhywle i ymarfer corff. Mae’r meysydd parcio yn ein parciau gwledig yn dal i fod ar gau.
Os oes gennych symptomau…
Os bydd gennych symptomau’r coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
• Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
• Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
• Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol